Mwy o glybiau… gwell clybiau

Home

Croeso i Glybiau Chwaraeon Cymru

Clybiau Chwaraeon Cymru ...

Bwriad Clybiau Chwaraeon Cymru yw cynnig cymorth ymarferol ynghlych sut i ddechrau a datblygu eich clwb i gynnig y gwasanaeth gorau posibl i’ch aelodau. Mae’n cynnig syniadau a thempladau ar sut i sefydlu a rhedeg clwb chwaraeon / gweithgarwch corfforol ac yn darparu llawer o dempladau syml i chi eu llwytho a’u defnyddio.

Mae hefyd yn gweithio fel arwyddbost i’ch arwain at adnoddau defnyddiol eraill, yn cynnwys Cyngor Chwaraeon Cymru, Awdurdodau Lleol, Cyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol, Hyfforddiant Cymru a llawer mwy.       

Defnyddiwch y fwydlen ar ochr chwith y dudalen i gael hyd i’ch ffordd o amgylch y safle. Hefyd, rhowch ychydig funudau o’ch amser i fynd am dro i’n tudalen adborth i roi eich sylwadau gwerthfawr i ni, oherwydd bydd hyn o gymorth i ni ddal ati i ddatblygu a gwella’r safle a chwrdd eich anghenion chi yn well.

Ar gyfer pwy mae Clybiau Chwaraeon Cymru?

Mae Clybiau Chwaraeon Cymru ar gyfer staff, aelodau pwyllgor, aelodau’n chwarae, rhieni, gwirfoddolwyr ac unrhyw un sydd eisiau cael gwybod sut i ddechrau a datblygu clwb chwaraeon / gweithgarwch corfforol.  Bydd y wefan yn cael ei ddefnyddio gan ein partneriaid, yn cynnwys Awdurdodau Lleol a Chyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol.        

Gall eich clwb chwaraeon / gweithgaredd corfforol fod yn un o gannoedd o glybiau, er enghraifft tenis, nofio, pêl rwyd, gymnasteg, loncian, pêl droed neu gerdded.  Efallai fod gennych nifer bychan o aelodau neu gymaint â 5,000.  Efallai eich bod yn gwasanaethu stad dai leol, pentref bychan, tref neu Gymru gyfan.  Fe all cyfanswm eich incwm blynyddol fod yn £40 neu mor uchel â £1,000,000! 

Waeth pa fath o glwb ydych chi, fe gewch hyd i wybodaeth ar y tudalennau hyn i’ch helpu i ddatblygu eich camp / gweithgaredd.

Cyngor chwaraeon cymru Cefnogwyd gan: Cynulliad Cenedlaethol Cymru Cefnogwyd gan: Y Loteri Genedlaethol Cefnogwyd gan: Her lechyd Cymru