Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth. Dywedwch wrthym os na wnaethoch chi ddod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano
Beth yw oedolyn bregus?
Mae ‘oedolion bregus’ yn cyfeirio at oedolion (dros 18 oed) sydd ag anabledd corfforol, salwch meddwl, anabledd dysgu neu sydd, oherwydd salwch neu anaf, angen cymorth, neu’n methu eu hamddiffyn eu hunain rhag niwed sylweddol neu ecsbloetio difrifol, a all ddigwydd yn sgil gweithredoedd pobl eraill, neu am nad ydynt yn gweithredu.
Drwy weithredu polisi cyfleoedd cyfartal eich clwb, mae’n debygol y bydd eich clwb yn denu staff ac aelodau sy’n ‘oedolion bregus’, os nad oes oedolion o’r fath yn eich clwb eisoes. Mae’n bwysig felly eich bod yn datblygu polisi oedolion bregus fel eich bod yn gallu cynnwys y staff a’r aelodau hynny mewn ffordd ddiogel a chynhwysol. Efallai fod gan eich Corff Rheoli Cenedlaethol bolisi eisoes y gallai eich clwb ei fabwysiadu. Y cam cyntaf fydd cysylltu â’r corff i weld pa bolisïau a dogfennau sydd ganddo. Os nad oes dim byd ar gael, gallech ddatblygu rhai eich hunan gan ddefnyddio templad.
Mae gan rai Cyrff Rheoli Cenedlaethol bolisi Lles sy’n rhoi sylw i Amddiffyn Plant ac Amddiffyn Oedolion, a materion eraill cysylltiedig â chydraddoldeb. Yn yr achosion hyn, gallai eich clwb fabwysiadu’r polisi lles.
Cliciwch yma ar gyfer Ffederasiwn Saesneg Chwaraeon Anabledd Child and Vulnerable People's Protection Policy.
Cydnabyddiaeth