Mwy o glybiau… gwell clybiau

Home » Mynd a'ch clwb ymhellach » Lles

Lles

Amddiffyn Plant           

image 5Fel clwb sefydliedig, dylech fod wedi mabwysiadu polisi amddiffyn plant eich Corff Rheoli Cenedlaethol neu fod wedi datblygu eich polisi eich hun.  Dylid arddangos datganiad polisi yn glir yn eich clwb a dylid sefydlu gweithdrefnau i sicrhau bod y polisi’n cael ei gyfleu i’ch staff ac i’ch aelodau.  Os oes gennych wefan, dylai eich polisi fod ar gael ynddi.                          

Hefyd, dylech fod wedi penodi ‘Swyddog Lles’ yn y clwb, gyda swydd-ddisgrifiad manwl yn amlinellu ei ddyletswyddau a’i gyfrifoldebau.  Dylai hefyd dderbyn hyfforddiant priodol i’w alluogi i wneud ei waith yn effeithiol.                         

Os yw eich clwb wedi mabwysiadu polisi’r CRhC, gwiriwch bod y canllawiau’n ddigon penodol ac yn berthnasol i’ch camp ar lefel eich clwb.             

Cyngor chwaraeon cymru Cefnogwyd gan: Cynulliad Cenedlaethol Cymru Cefnogwyd gan: Y Loteri Genedlaethol Cefnogwyd gan: Her lechyd Cymru