Mwy o glybiau… gwell clybiau

Home » Mynd a'ch clwb ymhellach » Gwirfoddolwyr

Gwobrwyo

GWOBRWYO

Diolch yn Fawr

volunteerGall 3 gair syml – diolch yn fawr – wneud gwahaniaeth mawr wrth i wirfoddolwr deimlo ei fod yn bwysig ac yn cael ei werthfawrogi gan y clwb, ac yn awyddus i ddal ati, yn hytrach na theimlo fel pe bai’n cael ei ddefnyddio ac yn ddiwerth, ac ar fin gadael y clwb. Dyma rai pethau i’w cadw mewn cof a’u defnyddio:                                            

  • dysgu enwau’r gwirfoddolwyr;
  • cofio diolch i’r gwirfoddolwyr a bod yn benodol ynghylch pam rydych yn diolch iddynt;
  • mynd yr ail filltir drwy anfon e-bost neu lythyr at wirfoddolwr, neu ei ffonio, i ddiolch iddo;

os ydych yn meddwl bod gwirfoddolwr yn gwneud rhywbeth yn arbennig o dda, dywedwch wrtho ef /hi!

Gwobrau

Beth am wobrwyo gwirfoddolwyr eich clwb i ddiolch yn gyhoeddus iddynt am eu holl gymorth a chefnogaeth?  Does dim raid wrth wobr anferth, dim ond dangos eich gwerthfawrogiad.  Byddai’n golygu llawer i’r gwirfoddolwr.  Ceir enghraifft yma o Dystysgrif Gwirfoddolwr, i chi ei haddasu i fod yn addas i’ch clwb.               

Opsiwn arall yw eu gwobrwyo gyda rhywbeth sy’n briodol iddynt hwy e.e. tocyn llyfr i ddarllenwr brwd.  Mae hyn yn dangos eich bod yn eu gwerthfawrogi a’ch bod wedi mynd yr ail filltir.

Gwerth

Gwnewch yn siwr bod eich gwirfoddolwyr yn teimlo’n werthfawr yn eich clwb. Ceisiwch eu cynnwys mewn agweddau eraill ar y clwb e.e. sicrhau eu barn a’u safbwynt mewn cyfarfodydd. 

Mae’r rhain i gyd yn feysydd pwysig i’w hystyried wrth ddenu mwy o wirfoddolwyr at eich camp a dal gafael arnynt yn eich clwb.     

Cofiwch am recriwtio, dal gafael a gwobrwyo a dylech sicrhau stoc iach o wirfoddolwyr gwerthfawr i’ch helpu i ddiogelu dyfodol eich clwb!

Ceir gwybodaeth bellach ddefnyddiol drwy glicio ar Gwybodaeth gyffredinol am faterion gwirfoddoli.  Mae hwn yn llyfryn defnyddiol iawn gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) sy’n darparu amrywiaeth llawn o awgrymiadau, syniadau ac astudiaethau achos ynghylch sut i recriwtio, cefnogi a gwerthfawrogi eich gwirfoddolwyr.

Yswiriant

Dyma adran arall a gafodd sylw yn rhan gyntaf y wefan.                                                      

Mae yswiriant yn gyfrifoldeb hanfodol i bob clwb.  Mae’n hanfodol er mwyn sicrhau bod gennych yswiriant priodol i warchod y gweithgareddau y mae eich clwb yn eu cyflwyno.  Os oes gennych bryderon neu ymholiadau, dylech holi eich Corff Rheoli Cenedlaethol, Swyddog Datblygu Chwaraeon a gyflogir gan eich Awdurdod Lleol neu eich cwmni yswiriant. Cliciwch am wybodaeth bellach ar safle Perkins Slade.     

Gwnewch yn siwr bod eich gwirfoddolwyr yn gwybod pa fath o yswiriant sydd gan y clwb ac ar gyfer beth y mae, yn cynnwys unrhyw gyfyngiadau.  Gwnewch yn siwr bod y gwirfoddolwyr yn deall ac yn gweithio oddi mewn i’r disgrifiad tasg y manylir yn ei gylch gan y cwmni yswiriant ar gyfer gwaith gwirfoddol.  Os oes gennych yrwyr gwirfoddol, cadarnhewch bod eu hyswiriant car yn eu gwarchod wrth yrru eu car ar gyfer y diben hwn.  Os yw’r gwirfoddolwyr yn gyrru cerbydau sy’n eiddo i’r clwb, gwnewch yn siwr bod ganddynt yswiriant priodol.  Dylech ddiweddaru eich manylion yswiriant yn rheolaidd, gan ychwanegu unrhyw newidiadau. 

Fel a grybwyllwyd yn yr adran gyntaf, ceir gwybodaeth bellach yng ngwefan newydd Rhedeg Chwaraeon yn www.runningsports.org.  Mae hwn yn safle newydd yn arbennig ar gyfer gwirfoddolwyr mewn chwaraeon felly bydd yn cynnig cefnogaeth a chyngor defnyddiol iawn i chi.

Cyngor chwaraeon cymru Cefnogwyd gan: Cynulliad Cenedlaethol Cymru Cefnogwyd gan: Y Loteri Genedlaethol Cefnogwyd gan: Her lechyd Cymru