Mwy o glybiau… gwell clybiau

Home » Mynd a'ch clwb ymhellach » Gwirfoddolwyr

Dal gafael

DAL GAFAEL AR WIRFODDOLWYR

hyfforddi jiwdoMewn unrhyw glwb, mae’n rhaid i sylfaen lwyddiannus o wirfoddolwyr gynnwys cefnogaeth gynhwysfawr ac effeithiol. Fel arall, gall gwirfoddolwyr ddod i’r clwb, teimlo ar goll ac yna diflannu a bydd yn golled i’r clwb / gweithgaredd / camp.  

Cefnogaeth

Mae’n hanfodol bod y gwirfoddolwyr sy’n rhoi o’u hamser yn derbyn cefnogaeth a chymorth priodol gan y clwb.  Maent angen eu cyflwyno i’r holl bobl berthnasol a theimlo’n bwysig.                             

Mae’n syniad da canfod beth sy’n eu cymell i wirfoddoli e.e.

  • a ydynt eisiau gwneud ffrindiau newydd? – pwysig eu bod yn cael cyfle i ryngweithio gyda nifer o wahanol bobl;
  • a ydynt eisiau dysgu sgiliau newydd – hanfodol eu bod yn cael cyfle i ddatblygu’r maes hwn.             

Waeth beth yw’r rheswm, mae’n bwysig eich bod yn ymwybodol ohono’n fuan iawn, er mwyn cynnal diddordeb a chyfranogiad y gwirfoddolwr.

Mae gwirfoddolwyr angen teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.  Bydd hyn yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl.  Efallai fod rhai eisiau cael gwneud penderfyniadau tra bo eraill yn fwy na bodlon yn eistedd yn ôl.  Mae ‘diolch yn fawr’ didwyll a syml yn ddigon iddynt hwy.  Mae’n bwysig eich bod yn gwneud pethau’n iawn o’r dechrau a dim ond drwy ofyn i bobl beth maent ei eisiau mae cael gwybod yn iawn.                       

Beth am roi dilledyn o’r cit iddynt e.e. crys-T y clwb, i wneud iddynt deimlo’n rhan o’r clwb?

Arweiniad

Efallai y bydd y rhai sy’n gwirfoddoli am y tro cyntaf angen cymorth ychwanegol ar y dechrau i fagu hyder wrth gyflawni tasgau newydd, felly mae’n bwysig bod clybiau’n cynnig cynlluniau mentora / cyfaill.  Nid oes raid i hyn fod yn gymhleth, dim ond ffordd o ddatblygu gwirfoddolwyr i’w cefnogi’n well ac, yn y pen draw, dal gafael arnynt ar gyfer y clwb.

Hyfforddi

Ni ddylid tanamcangyfrif hyn wrth feddwl am wirfoddolwyr – maent hwythau eisiau gwneud cynnydd, datblygu a gwella.  Bydd cynnig cyfleoedd hyfforddi’n rhoi mwy o hyder iddynt ac yn gwneud iddynt deimlo fel aelod gwerthfawr o’r clwb.             

Gofynnwch iddynt pa fath o hyfforddiant fyddai orau ganddynt i’w helpu gyda’u gwaith gwirfoddol.

Cynllunio olyniaeth

Wrth ystyried cynllunio ar gyfer y dyfodol, peidiwch ag anghofio’r gwirfoddolwyr eu hunain – mae’n bur debyg mai hwy sydd yn y sefyllfa orau i annog eraill i wirfoddoli, gan eu bod yn deall y gwaith yn well na neb arall.  Gallwch ystyried sefydlu system cyfaill gan ofyn i’r gwirfoddolwyr eu hunain recriwtio a hyfforddi olynwyr.                              

Adborth

Fel ym mhob gwaith arall, mae’n bwysig cyflwyno adborth i wirfoddolwyr, ond dylid gwneud hynny’n bositif, yn sensitif ac yn urddasol bob amser.  Gwnewch nodyn ysgrifenedig o’r hyn a drafodwyd ac unrhyw bwyntiau i’w gweithredu.             

Cyngor chwaraeon cymru Cefnogwyd gan: Cynulliad Cenedlaethol Cymru Cefnogwyd gan: Y Loteri Genedlaethol Cefnogwyd gan: Her lechyd Cymru