Mwy o glybiau… gwell clybiau

Home » Mynd a'ch clwb ymhellach » Rhaglen chwarae

Pwy All Helpu eich Clwb?

Mae Datblygiad Chwaraeon yn ymwneud ag adeiladu partneriaethau er mwyn darparu cyfleoedd chwaraeon priodol a chyfleus i bawb. Bydd y partneriaid cysylltiedig â datblygu chwaraeon yn amrywio o awdurdodau lleol, ysgolion (cynradd ac uwchradd), colegau / prifysgolion, clybiau, cyrff rheoli chwaraeon, clybiau a gwasanaethau cymunedol, canolfannau hamdden, cyfleusterau chwaraeon arbenigol a sports coach UK.

Swyddogion Datblygu Chwaraeon (SDCh’ion)      

Mae SDCh’ion yn gweithio i weithredu strategaethau chwaraeon a rhaglenni hyfforddi a datblygu chwaraeon Cyrff Rheoli Cenedlaethol ac Awdurdodau Lleol.  Efallai fod gan SDCh’ion swyddogaeth gyffredinol ac efallai eu bod yn gyfrifol am ddatblygu nifer o chwaraeon ffocws a chysylltiadau gweithredol gydag asiantaethau lleol, yn cynnwys clybiau, ysgolion, colegau a chanolfannau hamdden, yn ogystal â chyda sefydliadau cenedlaethol.  Mae Swyddogion Datblygu Chwaraeon i chwaraeon penodol a gweithio gydag un gamp yn unig.

Swyddogion Datblygu Chwaraeon yw’r catalydd yn aml ar gyfer sicrhau bod cyfleoedd o safon ar gael o lefel gyffredin i raglenni perfformiad a rhagoriaeth.

Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol neu eich Corff Rheoli Cenedlaethol i dderbyn gwybodaeth berthnasol i’ch anghenion.

Swyddogion Campau’r Ddraig

Menter gan Gyngor Chwaraeon Cymru yw Campau’r Ddraig, yn cael ei chyllido gan y Loteri Genedlaethol.  Ei diben yw cynnig i blant 7-11 oed gyfleoedd chwaraeon hwyliog a phleserus.  Gan gydweithio’n agos ag ysgolion a chlybiau chwaraeon cymunedol, mae Campau’r Ddraig yn cael effaith ddramatig ar gymryd rhan mewn chwaraeon drwy annog plant i ymwneud ag amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon trefnus.                           

Mae Campau’r Ddraig yn cyflwyno i blant hyfforddiant, datblygiad sgiliau a chystadlaethau priodol gan ddefnyddio fersiynau wedi’u haddasu o gemau oedolion, i ddiwallu eu hanghenion a lefel eu sgiliau.

Cyngor chwaraeon cymru Cefnogwyd gan: Cynulliad Cenedlaethol Cymru Cefnogwyd gan: Y Loteri Genedlaethol Cefnogwyd gan: Her lechyd Cymru