Mwy o glybiau… gwell clybiau

Home » Mynd a'ch clwb ymhellach » Rhaglen chwarae

Datblygiad Hirdymor Athletwyr (DHA)

sports conditioning2Mae Datblygiad Hirdymor Athletwyr (DHA) yn canolbwyntio ar ddatblygu athletwyr cystal ag y bo modd ac annog ymrwymiad oes i chwaraeon ac ymarfer. Y materion allweddol yw argaeledd cystadlaethau priodol i blant (cael y balans cywir rhwng hyfforddi a chystadlu) ac annog plant i gymryd rhan mewn cymaint o chwaraeon ag y bo modd o oedran ifanc. Bydd hyn yn eu paratoi’n fwy effeithiol at arbenigo yn nes ymlaen.

Mae’r cynllun DHA yn cydnabod pwysigrwydd cael hyfforddwyr o safon i weithio gyda phlant a phobl ieuainc yn ystod eu cyfranogiad dechreuol.  Tra’n cydnabod bod DHA yn mynd i greu nifer uwch o berfformwyr ar y lefel uchaf un, mae hefyd yn cynnwys cefnogaeth i gyfranogwyr sy’n dymuno cymryd rhan mewn chwaraeon er diben hamdden.  Mae DHA yn athroniaeth sy’n seiliedig ar yr egwyddorion a ganlyn:                  

  • Sgiliau Sylfaenol – Yr angen am i blant ddysgu amrywiaeth eang o sgiliau symud mewn amgylchedd hwyliog, gan weithredu’n aml-sgiliau;
  • Dysgu Hyfforddi – Cyflwyno sgiliau sylfaenol mewn hoff weithgareddau drwy ymarfer yn rheolaidd mewn amgylcheddau hwyliog;
  • Hyfforddi i Hyfforddi – Rhaglenni unigol yn seiliedig ar ddatblygiad unigol;                        
  • Hyfforddi i Gystadlu – Ffocws ar gryfderau a gwendidau diagnosis ar gyfer digwyddiadau / sefyllfaoedd a dyfeisio rhaglen yn unol â hynny;
  • Hyfforddi i Ennill – Ffocws ar hyfforddi i sicrhau’r perfformiad gorau, neu gyrraedd y brig, mewn cystadlaethau dethol;
  • Dal Gafael – Perfformwyr yn troi at weithgareddau eraill wedi rhoi’r gorau i chwaraeon cystadleuol.               

Cydnabyddiaeth: (o 'Hyfforddiant ar gyfer Datblygiad Hirdymor Athletwyr' gan Ian Stafford ac Istvan Balyi)

Mae DHA yn datblygu’n gysyniad pwysig ar gyfer chwaraeon yn y DG.  Mae nifer o chwaraeon yn edrych ar y model DHA yn awr ac yn dechrau ei integreiddio yn eu llwybr chwaraeon.  Mae’n broses heriol ar gyfer chwaraeon ac mae pawb mewn cyfnod gwahanol yn y broses.  Mae cyrsiau ar gael, felly, am wybodaeth bellach, cysylltwch â’ch CRhC neu cliciwch ar y canlynol DHA.

Cyngor chwaraeon cymru Cefnogwyd gan: Cynulliad Cenedlaethol Cymru Cefnogwyd gan: Y Loteri Genedlaethol Cefnogwyd gan: Her lechyd Cymru