Mwy o glybiau… gwell clybiau

Home » Mynd a'ch clwb ymhellach » Rhaglen chwarae

Rhaglen Chwarae

Athletics08Ceir cofnod helaeth am fanteision cymryd rhan mewn chwaraeon. Mae’n arwain at fanteision iechyd a hefyd yn cynnig y fantais o ryngweithio’n gymdeithasol a datblygu cyfeillgarwch oes. Ond eto, i lawer o bobl, mae’n bwysig cael canlyniad terfynol, a nid dim ond chwarae.                           

Felly mae’r rhaglen chwarae’n rhan allweddol o’ch clwb.  Mae’n gyfuniad o hyfforddiant, ymarfer a chystadlu.  Mae’n amrywio o gamp i gamp.  Mae CRhC yn sylweddoli pa mor bwysig yw trefnu rhaglen chwarae briodol ar gyfer plant a phobl ieuainc ac mae llawer yn gwneud argymhellion ar sail y model Datblygiad Hirdymor Athletwyr (DHA) yn eu campau penodol.               

Cystadleuaeth sy’n denu pobl at glwb yn aml iawn, ac yn eu cadw’n aelodau.  Mae pob person eisiau mwynhau ei gamp ar ei lefel ef ei hun; mae llawer eisiau gwella eu sgiliau ac eraill eisiau cystadlu gydag eraill.  Dim ond cyfle i gymdeithasu mae eraill ei eisiau ond bydd y rhan fwyaf o’r aelodau’n mwynhau digwyddiadau cymdeithasol gyda’u ffrindiau yn y clwb.

Yn yr adran hon ceir gwybodaeth am:  

Er mwyn i’ch clwb fod yn llwyddiannus, mae’n hanfodol sefydlu llwybrau a strwythurau i alluogi i bobl ddysgu sgiliau sylfaenol, i gymryd rhan ar lefel y maent yn gyfforddus â hi, datblygu eu medrusrwydd ac, os ydynt yn dymuno, perfformio ar y lefel uchaf bosibl.

Cyngor chwaraeon cymru Cefnogwyd gan: Cynulliad Cenedlaethol Cymru Cefnogwyd gan: Y Loteri Genedlaethol Cefnogwyd gan: Her lechyd Cymru