Mwy o glybiau… gwell clybiau

Home » Mynd a'ch clwb ymhellach » Rhaglen chwarae

Y Rhaglen Gystadlu

Mae darparu cyfleoedd cystadleuol priodol i aelodau eich clwb yn hanfodol. I rai, mae’n bwysig cael cystadlaethau ac felly mae strwythur ar ffurf cynghreiriau a thwrnamentau’n allweddol. Mae’r canlynol yn ffyrdd posibl o gyflwyno rhaglen gystadlu.

  • Gwyliau;
  • Cystadlaethau Mewnol / Rhwng Clybiau;
  • Cystadlaethau Rhanbarthol a Chenedlaethol.

Gwyliau

Yn ogystal â chyflwyno dechreuwyr i gamp, gall gwyliau helpu i gynyddu eich clwb drwy greu incwm a darparu cystadlaethau i’ch aelodau. Mae’n hanfodol eich bod yn meddwl am yr hyn yr ydych am ei gyflawni. A ydych eisiau achlysur cynnar neu ddigwyddiad cyn i’r tymor ddechrau, i baratoi eich tîm ar gyfer y prif dymor, ynteu a fyddai digwyddiad ar ddiwedd y tymor, ar ffurf dathliad cymdeithasol o’ch camp, yn fwy priodol.

Am wybodaeth bellach am gynnal Gŵyl, cliciwch yma.

Cystadlaethau

Dylai clybiau allu darparu cystadlaethau clwb mewnol a / neu gystadlaethau allanol yn unol â chanllawiau CRhC. Ceir cystadlaethau amrywiol y bydd modd i chi gymryd rhan ynddynt fel clwb ac mae’n bur debyg bod y rhan fwyaf wedi’u trefnu’n lleol, ond, wrth i’ch athletwyr / timau ddod yn fwy llwyddiannus, efallai y byddwch am ystyried cystadlaethau sydd wedi’u trefnu’n rhanbarthol ac yn genedlaethol, neu’n rhyngwladol hyd yn oed. Mae’n bwysicach fyth felly sicrhau bod eich athletwyr a’ch timau wedi’u paratoi’n llawn ar gyfer yr achlysur. Felly, mae’r canlynol yn berthnasol o hyd:

  • Sicrhau bod y cyfranogwyr wedi’u prataoi’n briodol a gosod nodau realistig;
  • Mae hyrwyddo agwedd bositif tuag at gymryd rhan mewn cystadlaethau yn arf addysgol rhagorol ar gyfer datblygiad meddyliol a chorfforol;
  • Ystyried mecanwaith cefnogi ar gyfer y rhai sy’n symud drwy wahanol lefelau o gystadlu neu sgwadiau, drwy gefnogi system ‘cyfaill’ efallai i gefnogi newydd-ddyfodiaid / dechreuwyr;
  • Dylai’r amserlen hyfforddi gyd-fynd â’r rhaglen / calendr cystadlu er mwyn sicrhau bod cyfranogwyr ar eu gorau wrth gystadlu;
  • Annog cyfranogwyr abl i dreialu ar gyfer sgwadiau cynrychioliadol, er mwyn ymestyn a herio unigolion;
  • Sicrhau bod pob cyfranogwr yn cael ei annog i weithredu mewn ffordd deg ym mhob cystadleuaeth, fel a nodir yng nghod ymddygiad yr aelodau;
  • Sicrhau bod yr agwedd tuag at y cystadleuwyr yn gefnogol, fel arall bydd cyfranogwyr yn cael trafferth i ddalati;
  • Annog rhieni a chefnogwyr i weithredu mewn ffordd deg a darparu adborth positif a chefnogol.

Cystadlaethau Rhanbarthol a Chenedlaethol

Mae strwythurau domestig cryf yn darparu cyfleoedd ar gyfer amrywiaeth eang o safonau perfformio a fframwaith i unigolion talentog ddatblygu. Mae cystadlaethau rhanbarthol a chenedlaethol yn darparu cyfleoedd i gyfranogwyr a hyfforddwyr gystadlu mewn neu gadw at lefel uwch o gystadlu. Trefnir y rhain yn aml gan y Corff Rheoli Cenedlaethol. Gall y profiad fod yn amhrisiadwy i hyfforddwyr a darparu cyfle rhagorol i’r cyfranogwyr. Gall greu brwdfrydedd dros gamp, cymhelliant i ymarfer, ysbryd o dîm a phrofiad amhrisiadwy.

Mae’r digwyddiadau hyn yn ddechrau ar y llwybr perfformio i lawer ac yn galluogi perfformwyr i brofi’r lefel gystadlu briodol.

Mae’n hanfodol bod aelodau eich clwb yn derbyn cyfleoedd cystadlu priodol. Fodd bynnag, mae’n bwysig sicrhau bod y cystadlu’n addas i anghenion y cyfranogwyr, gan roi ystyriaeth i’w hoedran a’u haeddfedrwydd, eu sgiliau, eu gallu, eu hagwedd a’u profiad o’r gamp.

Os yw’r gystadleuaeth yn rhy anodd, yna mae’r cyfranogwyr yn debygol o golli hyder, a all arwain at y clwb a’r gamp yn colli unigolyn am byth. Os yw’r gystadleuaeth yn rhy hawdd, yna mae’r cyfranogwr yn debygol o ddiflasu, heb gael ei herio, ac fe all roi’r gorau i’r gamp neu symud i glwb arall.

Mae’n rhaid i bob camp ddangos bod y staff hyfforddi wedi’u hyfforddi i’r lefel angenrheidiol a bod y gweithgaredd a gynhelir yn y clwb yn adlewyrchu arfer orau wrth ddatblygu pobl ieuainc. Mae’n ofynnol i hyfforddwyr sicrhau nad yw pobl ieuainc yn hyfforddi gormod nac mewn amodau a all beri anaf neu anghyfforddusrwydd iddynt. Dylai’r pwyslais mewn clwb fod ar gefnogi hyfforddwyr yn eu datblygiad proffesiynol, fel bod CRhC yn cefnogi ei hyfforddwyr i ddeall a gweithredu syniadau newydd (e.e., DHA).

Mae’n rhaid i glybiau sicrhau bod y lleoliad a’r offer yn addas i bwrpas ac yn briodol i’r grwpiau oedran a lefel gallu’r perfformwyr sy’n eu defnyddio. Un dull o sicrhau bod y cyfleusterau’n ‘addas i bwrpas’ yw drwy gynnal asesiad risg. Mae’r asesiad hwn yn gwirio cyfleusterau, offer a gweithdrefnau diogelwch i weld a ydynt yn cydymffurfio â’r safonau a ddisgwylir gan y CRhC.

Cyngor chwaraeon cymru Cefnogwyd gan: Cynulliad Cenedlaethol Cymru Cefnogwyd gan: Y Loteri Genedlaethol Cefnogwyd gan: Her lechyd Cymru