Mwy o glybiau… gwell clybiau

Home » Mynd a'ch clwb ymhellach » Rhaglen chwarae

Cysylltiadau Clwb / Cymuned / Ysgol

Camau Allweddol i Ddatblygu Cysylltiadau Ysgol

Cwestiynau allweddol i’w hystyried cyn cynnal cyfarfod dechreuol:

  • Beth mae'r clwb eisiau cyflawni o'r bartneriaeth?;
  • Gyda phwy mae’r clwb eisiau cysylltu a pham? 
  • Arenwi syniadau posibl ar gyfer y bartneriaeth;
  • Nodi’r wybodaeth sydd ei hangen gan yr ysgol;  
  • Sut fydd y clwb yn ffurfio cyswllt gyda’r ysgol;
  • Beth all y clwb ei gynnig i’r bartneriaeth;
  •  Sut fydd y clwb yn rheoli a hybu’r cysylltiadau.

Er mwyn i’r berthynas rhwng y clwb a’r ysgol fod yn gwbl lwyddiannus, bydd raid i Bennaeth yr ysgol (new yr athro/athrawes sydd yn gyfrifol am A.G) a swyddog cyswllt y Clwb fod yn gwbl fodlon bod yr hyfforddwyr allanol yn gymwys, yn fedrus i oruchwylio gweithgareddau ac wedi’u gwirio gan y BCC.  Mae’n hanfodol bod yr hyfforddwyr allanol wedi derbyn briff llawn am eu swyddogaeth a’u cyfrifoldebau a swyddogaeth a chyfrifoldebau’r ysgol.  Yn ogystal â chael yr ysgol i helpu i hybu’r gamp, gallai’r clwb gytuno i annog athrawon a rhieni i gymryd rhan mewn cyrsiau hyfforddi priodol.                 

Manteision i’r ysgol:     

  • Hyfforddiant arbenigol i ategu a chefnogi’r rhaglen addysgu;          
  • Llwybrau clir / allanfeydd i blant ddal ati i gymryd rhan mewn chwaraeon;
  • Amrywiaeth ehangach o chwaraeon ar gael i ddisgyblion;
  • Gwella perfformiad a llwyddiant chwaraeon; 
  • Defnydd o well cyfleusterau;
  • Cynyddu’r potensial ar gyfer gwneud defnydd o gyfleoedd cyllido eraill;
  • Cynnydd yn nifer y plant ysgol sy’n cadw’n heini, yn iach ac yn egnïol;     
  • Cyfrannu at ddatblygiad cymdeithasol a phersonol person ifanc; 
  • Codi proffil yr ysgol;    
  • Delwedd chwaraeon a chymunedol bositif;
  • Cefnogi a mentora athrawon.    

 Manteision i’r clwb:   

  • Codi proffil y clwb;
  • Rhoi hwb i’r aelodaeth iau; 
  • Incwm newydd posibl;  
  • Cyfleoedd newydd i blant ddatblygu drwy ‘eich’ camp;            
  • Y potensial i rannu adnoddau; offer, cyfleusterau, arbenigedd hyfforddi;
  • Defnydd o gyfleusterau ychwanegol;
  • Potensial i gael/recriwtio mwy o hyfforddwyr a gwirfoddolwyr (athrawon/disgyblion).

Cyngor chwaraeon cymru Cefnogwyd gan: Cynulliad Cenedlaethol Cymru Cefnogwyd gan: Y Loteri Genedlaethol Cefnogwyd gan: Her lechyd Cymru