Mwy o glybiau… gwell clybiau

Home » Mynd a'ch clwb ymhellach » Rhaglen chwarae

Y Rhaglen 5 x 60

basketballMenter newydd yw’r rhaglen 5 x 60. Bydd y swyddogion 5 x 60 yn gweithio mewn ysgolion uwchradd ac yn ceisio datblygu cyfleoedd allgyrsiol newydd i ddisgyblion. Mae clybiau lleol yn allweddol i lwyddiant a chynnydd y rhaglen, sy’n bwriadu cyfrannu’n sylweddol at darged Cynulliad Cymru o gael 90% o ddisgyblion uwchradd yn cymryd rhan mewn 60 munud o weithgarwch corfforol bum gwaith yr wythnos erbyn 2020.

Mae llwyddiant y cynllun peilot dechreuol yn mynd i roi cyfle i bob ysgol uwchradd yng Nghymru gael swyddog 5 x 60 erbyn 2009 i newid y ddarpariaeth o chwaraeon mewn ysgolion a thrawsnewid caeau chwarae a neuaddau chwaraeon yn fwrlwm o weithgarwch o fore gwyn tan nos. Y math o weithgareddau y gwnaed cais amdanynt yn y cynllun peilot oedd:

  • Gweithgareddau cystadleuol traddodiadol. Parhad o’r math o weithgareddau y maent wedi’u mwynhau eisoes drwy gyfrwng Campau’r Ddraig. Gellir cynnig y gweithgareddau hyn drwy gyfrwng cystadlaethau rhwng tai / dosbarthiadau ac, yn y cynlluniau peilot, mae llawer mwy o ddisgyblion wedi dal ati i gymryd rhan.
  • Gweithgareddau hamdden fel dawns, aerobics, ffitrwydd, trampolinio; bu galw mawr am y math yma o weithgarwch mewn rhaglenni blaenorol.
  • Gweithgareddau a hyfforddir mewn awyrgylch mwy anffurfiol, gan roi cyfle i ddisgyblion ddysgu sgiliau rhesymol ac felly mwynhau ychydig mwy ar y gêm. Yn y cynlluniau peilot, tynnodd un stori sylw at gysylltiadau gyda chlwb tenis, fel bod disgyblion yn cael cyfle i dderbyn hyfforddiant er mwyn gallu chwarae tenis fel rhan o ystol denis yr ysgol.
  • Gweithgareddau yn yr Awyr Agored. Mae gan Gymru adnodd naturiol enfawr sydd ar gael i bawb. Gobeithir cynnig cyfleoedd yn cynnwys yr awyr agored i lawer mwy o bobl ieuainc.

Yn ogystal â chreu cysylltiadau gydag ysgolion yn yr ardal, gellir ffurfio cyswllt gyda grwpiau cymunedol er mwyn ehangu agwedd gymdeithasol y clwb. Ehangu’r rhaglen o weithgareddau a gynigir yn y clwb ar hyn o bryd.

Cyngor chwaraeon cymru Cefnogwyd gan: Cynulliad Cenedlaethol Cymru Cefnogwyd gan: Y Loteri Genedlaethol Cefnogwyd gan: Her lechyd Cymru