Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth. Dywedwch wrthym os na wnaethoch chi ddod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano
Menter a gyllidir gan Gyngor Chwaraeon Cymru drwy gyfrwng y Loteri Genedlaethol yw Campau’r Ddraig, yn cynnig cyfleoedd chwaraeon hwyliog a phleserus i blant 7-11 oed. Diben y cynllun yw ehangu diddordebau chwaraeon y plant sydd eisoes yn cymryd rhan mewn chwaraeon a chynnwys y plant hynny nad ydynt yn cael cyfleoedd o’r fath y tu allan i’w gwersi AG.
Defnyddir portffolio o wyth camp wedi’u haddasu fel rhan o’r cynllun. Yr wyth camp a gynigir gan y Ddraig yw rygbi, athletau, criced, pêl droed, hoci, pêl rwyd, tenis a golff.
I ymeld â gwefan Campau’r Ddraig, cliciwch yma.
Yn debyg i Gampau’r Ddraig, rhaglen a gyllidir gan Gyngor Chwaraeon Cymru yw 5X60. Bydd y rhaglen 5x60 yn newid y dull o ddarparu chwaraeon mewn ysgolion, gan drawsnewid caeau chwarae a neuaddau chwaraeon yn fwrlwm o weithgarwch o fore gwyn tan nos.
Bydd swyddogion 5x60 yn gweithio mewn ysgolion uwchradd a’u swyddogaeth hwy fydd ymgynghori gyda’r disgyblion, gwrando ar eu hanghenion a gweld pa rwystrau sy’n eu hatal rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau.
Byddant yn trefnu rhaglen o weithgareddau sy’n diwallu anghenion y disgyblion. Gall y gweithgareddau hyn gael eu cynnal cyn y gwersi yn y bore, yn ystod amser cinio, ar ôl ysgol neu ar benwythnosau. Bydd y gweithgareddau’n targedu’r unigolion nad ydynt yn cymryd rhan ar hyn o bryd neu sydd mewn perygl o golli diddordeb.
Bydd darparu cyswllt clwb ac allanfeydd i’r disgyblion yn hanfodol hefyd, er mwyn gwneud y rhaglen yn gynaladwy. Mae disgwyl i 5X60 ennyn mwy o ddiddordeb mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn ffyrdd amrywiol. Bydd y swyddogion 5X60 yn gorfod ffurfio mwy o gyswllt gyda’r gymuned a’r timau datblygu chwaraeon er mwyn gallu bodloni’r galw hwn. Dyma lle y gall eich clwb chi ymuno er mwyn helpu rhedeg rhaglen cymundol.
Sefydlwyd y Prosiect Addysg Gorfforol a Chwaraeon Ysgol (AGChY) yn 2000 gan Gyngor Chwaraeon Cymru ar ran Cynulliad Cymru. Canlyniad i adroddiad tasglu a oedd yn amlinellu’r camau allweddol yr oedd angen eu cymryd i godi safonau mewn AG oedd y rheswm dechrau.
Amcan y prosiect yw codi safonau mewn addysg gorfforol drwy sicrhau bod pob ysgol yn:
Cydnabyddiaeth