Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth. Dywedwch wrthym os na wnaethoch chi ddod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano
Mae gennych sylfaen dda o aelodau a nawr rydych yn awyddus i ddal gafael arnynt a recriwtio ychydig mwy efallai.
Mae’r adran hon yn edrych ar ffyrdd o ofalu am eich aelodau presennol ac yn ystyried sut orau i recriwtio.
Unwaith bydd eich aelodaeth yn dechrau tyfu, bydd raid i chi fod yn ofalus o’r holl wybodaeth, h.y. manylion eich aelodau. Gall bas data fod yn un opsiwn i chi. Ceir nifer o raglenni meddalwedd sy’n gallu gwneud hyn. Hefyd, efallai eich bod am ystyried basau data ar-lein ar gyfer cofnodi manylion yr aelodau, a gall yr aelodau ddiweddaru’r manylion eu hunain wedyn. Ar gyfer clybiau llai, gallech sefydlu cofnod aelodaeth syml yn defnyddio rhaglen taenlen, gydag un rhes ar gyfer pob aelod a phob colofn yn cofnodi maes data gwahanol e.e. cyfeiriad, oedran, rhif ffôn, etc – gweler y templad ar gyfer cofnod aelodaeth. Efallai na fydd y system syml hon yn addas i chi ymhen amser ac y byddwch angen bas data ehangach a gwell, fel Microsoft Access, neu un o’r nifer o fasau data a grëwyd i bwrpas ar gyfer clybiau chwaraeon.
Cydnabyddiaeth