Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth. Dywedwch wrthym os na wnaethoch chi ddod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano
Ceir llu o fanteision wrth gyflwyno clwb anabl lloeren, sefydlu clwb anabl neu integreiddio athletwyr gydag anableddau mewn clybiau ar gyfer y rhai nad ydynt yn anabl. Mae’n:
• sicrhau cyflenwad digonol o aelodau newydd i ddiogelu dyfodol y clwb; • cynyddu aelodaeth y clwb – gan arwain at fwy o incwm i’r clwb; • sicrhau bod mwy o wirfoddolwyr yn cael eu recriwtio drwy gyfrwng rhieni a gofalwyr; • darparu swyddogion a gweinyddwyr ar gyfer y dyfodol, drwy fentora / cysgodi swyddogion presennol y clwb; • datblygu’r aelodau presennol – rhoi cyfle iddynt wynebu her, swyddogaeth a chyfrifoldeb newydd; • datblygu cystadleuwyr / chwaraewyr o oed cynnar – gan arwain at godi safonau; • codi proffil y clwb; • cynyddu ymwybyddiaeth y chwaraewyr i gyd o anabledd, ac o allu a medrusrwydd yr athletwyr gyda a heb anableddau.
Am fwy o wybodaeth er mwyn dechrau arni cliciwch ar y cyswllt yma i ddod o hyd i Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru yn eich ardal chi. (http://www.disability-sport-wales.org/inyourarea.html)
Cydnabyddiaeth