Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth. Dywedwch wrthym os na wnaethoch chi ddod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano
Er mwyn datblygu cynlluniau mwy uchelgeisiol, efallai y bydd eich pwyllgor rheoli am sefydlu Gweithgor Aelodaeth i oruchwylio cynllun gweithredu ar gyfer recriwtio aelodau. Gellir cael hyd i demplad syml ar y dde. Mae llunio cynllun gweithredu clir ar gyfer eich clwb yn ffordd ragorol o ffurfioli eich syniadau. Does dim rhaid creu cynllun cymhleth – mae un syml yn llawer gwell!
Efallai yr hoffech dderbyn cymorth a chefnogaeth gan un neu bob un o’r canlynol er mwyn cael syniadau ar gyfer denu aelodau newydd:
Mae rhai manylion cyswllt ar gael ar y dde.
Mae datganiad i’r wasg yn un ffordd o hybu eich clwb - drwy gynnwys seren chwaraeon lleol i gymeradwyo a rhoi cyhoeddusrwydd i’ch ymgyrch recriwtio.
Er mwyn sicrhau dyfodol llewyrchus i’ch clwb, mae’n bwysig paratoi a chynllunio’n effeithlon ac effeithiol. Mae cyfathrebu’n hanfodol er mwyn gwneud y gymuned leol yn ymwybodol o’ch clwb a’i fanteision posibl iddi – po fwyaf o bobl sy’n gwybod am eich clwb a’r hyn sydd gennych i’w gynnig, po fwyaf tebygol y byddant o ddweud wrth eraill a hybu eich clwb ar eich rhan.
Cydnabyddiaeth