Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth. Dywedwch wrthym os na wnaethoch chi ddod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano
Cymdeithas Heb Ei Hymgorffori
Dyma’r strwythur a ddefnyddir amlaf gan fwyafrif helaeth o glybiau a sefydliadau chwaraeon yn y sector gwirfoddol. Mae’r aelodau’n dod at ei gilydd ac yn cytuno i sefydlu’r clwb gyda’i reolau a’i weithdrefnau gweithredol ei hun. Nodir y rhain wedyn yn y Cyfansoddiad e.e. penodi swyddogion fel cadeirydd, ysgrifennydd a thrysorydd, dyletswyddau, pwerau a chyfrifoldebau’r rhai a benodir ac a etholir a’r rheolau perthnasol i aelodaeth.
Ceir perthynas gytundebol rhwng yr aelodau unigol a’r sefydliad, gan eu bod wedi cytuno i, neu "gontractio", i ddod at ei gilydd ar gyfer diben arbennig. Nid oes gan y gymdeithas unrhyw fodolaeth neu bersonoliaeth ar wahân i’w haelodau unigol.
Dyma’r strwythur clwb symlaf, yr hawsaf i’w redeg a’i weithredu, a’r un y bydd y rhan fwyaf o aelodau’n gyfarwydd ag ef.
Mae’r strwythur yn addas iawn ar gyfer:
Gan nad oes gan y math yma o gymdeithas hunaniaeth gyfreithiol ei hun, ni all weithredu’n gyfreithiol, benthyg arian, llunio cytundebau yn ei henw ei hun na dal eiddo. Os yw’r gymdeithas yn bodoli er budd eraill, bydd yr eiddo’n cael ei ystyried fel eiddo’n perthyn i ymddiriedolaeth fel rheol.
Un canlyniad difrifol y dylech fod yn ymwybodol ohono gyda’r math yma o strwythur yw bod HOLL aelodau’r gymdeithas yn atebol os bydd rhywbeth yn mynd o’i le. Felly, os bydd y clwb yn troi’n fethdalwr, gall yr holl aelodau fod yn gyfrifol am y dyledion, waeth beth yw eu hamgylchiadau ariannol unigol. Gan nad oes cyfyngiadau ar yr atebolrwydd hwn, gallai’r rhai cyfoethocach gael eu heffeithio’n waeth na’r rhai gydag ond ychydig arian.
I fod yn bositif, mae cymdeithasau heb eu hymgorffori’n syml i’w sefydlu a’u rhedeg. Nid oes angen caniatâd gan unrhyw un arall. Rydych yn creu eich cyfansoddiad eich hun ac yn gofalu am eich materion eich hun oddi mewn i’r rheolau hyn. Mae’r rhan fwyaf o glybiau’n gallu eu hyswirio eu hunain rhag pob risg gyffredin ac mae eich Corff Rheoli Cenedlaethol yn debygol o fod yn cynnig cynllun yswiriant i chi ymuno ag ef.
Cydnabyddiaeth