Mwy o glybiau… gwell clybiau

Home » Mynd a'ch clwb ymhellach » Rheoli eich clwb

Ymgorfforedig

Ymgorffori – statws cwmni cyfyngedig

Dyma strwythur ble mae’r cwmni’n hunaniaeth gyfreithiol gwbl ar wahân i’w aelodau. Mae’r term ‘cyfyngedig’ yn deillio o’r ffaith bod cyllid y cwmni ar wahân i gyllid personol y perchnogion. Ceir dau fath o gwmni cyfyngedig:                                  

  • cwmni cyfyngedig gan gyfranddaliadau – gyda chyfalaf a rennir, gyda’r perchnogaeth a’r rheolaeth yn perthyn i’r cyfranddeiliaid.  Fel rheol, mae’r ffurf yma’n amhriodol i glybiau chwaraeon.
  • cwmni cyfyngedig gan warant – lle mae aelodau’r cwmni i gyd yn gwarantu i dalu swm fechan (hyd at £5 yr un fel rheol) os na fydd y cwmni’n gallu bodloni ei rwymedigaethau.  Fel rheol, defnyddir y ffurf yma gan glybiau chwaraeon sy’n dymuno ymgorffori fel cwmni.                    

Mae sawl mantais yn perthyn i’r strwythur olaf hwn.  Gan fod y clwb yn hunaniaeth gyfreithiol ar wahân, mae’n haws iddo lunio trefniadau cytundebol, e.e. benthyg arian, bod yn berchen ar adeiladau neu gynnal digwyddiadau mawr.  Y clwb ei hun, nid yr aelodau unigol, sy’n gyfrifol am rwymedigaethau a dyledion y clwb (oni bai fod un o’r swyddogion wedi gweithredu’n dwyllodrus neu’n esgeulus ac, os felly, mae’r unigolyn hwnnw’n bersonol atebol).  Dim ond hyd at werth swm eu gwarant fydd aelodau unigol yn gyfrifol am ddyledion neu rwymedigaethau’r clwb.

Yn fwy negyddol, bydd eu costau cyfrifo’n cynyddu ac felly bydd raid i chi gael eich darbwyllo bod digon o arbedion yn cael eu gwneud i gyfiawnhau’r gost.  Rheolir y cwmni gan Dŷ’r Cwmnïau, sydd â rheolau caeth ar gyfer adrodd yn ôl am gyfrifon masnachu (sy’n arwain at gynnydd yn y pris) ac ar gyfer ymddygiad cyfarwyddwyr a swyddogion eraill y cwmni.  Bydd raid i chi fod yn fodlon y byddwch yn gallu ymdopi â’r rheoliadau hyn.  Ceir manylion pellach am Dŷ’r Cwmnïau drwy glicio ar y cyswllt yma - Tŷ’r Cwmnïau.

Dylech ystyried ffurfio Cwmni Cyfyngedig os bydd un neu fwy o’r canlynol yn berthnasol i’ch clwb:

  • mae gennych asedau gwerthfawr ar ffurf adeiladau, cyfleusterau neu gronfeydd ariannol;  
  • rydych yn ymwneud â gwerthu dwysedd sylweddol o nwyddau a gwasanaethau i bobl nad ydynt yn aelodau, fel cyrsiau hyfforddi, achrediadau, offer, gosodiadau, llyfrau a deunyddiau eraill;        
  • rydych yn bwriadu trefnu digwyddiad mawr lle ceir risg o golled ariannol sylweddol (ac, os felly, efallai eich bod yn ystyried sefydlu’r digwyddiad fel cwmni cyfyngedig yn perthyn i’ch clwb).
Cyngor chwaraeon cymru Cefnogwyd gan: Cynulliad Cenedlaethol Cymru Cefnogwyd gan: Y Loteri Genedlaethol Cefnogwyd gan: Her lechyd Cymru