Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth. Dywedwch wrthym os na wnaethoch chi ddod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano
CYFARFODYDD
Mae’n rhaid i bob clwb chwaraeon feddu ar strwythur clir ar gyfer trefnu cyfarfodydd y clwb. Dylid cyfeirio at gyfarfodydd clwb yn y cyfansoddiad ac, fel rheol, ceir dau fath o gyfarfod cyffredinol:
Nodir y rheolau ar gyfer y cyfarfodydd cyffredinol hyn yn y cyfansoddiad hefyd h.y. cworwm ar gyfer cyfarfod, sawl diwrnod o rybudd sydd ei angen etc.
Cyfarfodyddd Cyffredinol Blynyddol (CCB)
Cynhelir CCB bob blwyddyn gan y clwb er mwyn:
Mae’n bwysig sicrhau bod y CCB yn cael cyhoeddusrwydd da (e.e. yr wybodaeth ar gael ar hysbysfwrdd y clwb, yn y wasg leol, mewn adeiladau cymunedol lleol) a bod croeso i’ch aelodau i gyd. Po fwyaf a ran fyddant yn ei chwarae yn y broses gyfan, gorau oll. Mae’n rhaid iddynt deimlo’n fodlon bod proses wneud penderfyniadau’r clwb yn deg ac yn cynrychioli holl aelodau’r clwb. Mae’n gyfle da hefyd i recriwtio ‘gwaed newydd’ i’r clwb ac ar y pwyllgor.
Fel rheol, mae ysgrifennydd y clwb yn gyfrifol am wneud yr holl drefniadau angenrheidiol ar gyfer y CCB:
Cydnabyddiaeth