Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth. Dywedwch wrthym os na wnaethoch chi ddod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano
Cyfarfodydd Cyffredinol Anarferol
Gelwir y cyfarfod hwn os bydd o leiaf traean o aelodau’r clwb (neu’r gyfran a nodir yng nghyfansoddiad y clwb) yn dymuno diwygio rheol yn y clwb, diwygio’r cyfansoddiad neu drafod unrhyw fater arall pwysig a / neu frys, na all aros tan y CCB.
Cyfarfodydd pwyllgor
Trefnir y cyfarfodydd pwyllgor gan swyddogion etholedig y clwb er mwyn rhedeg y clwb o ddydd i ddydd. Mae cyfarfodydd rheolaidd yn bwysig er mwyn sicrhau bod gan y clwb broses yn ei lle i gynllunio, cyfathrebu a monitro cynnydd.
Yr allwedd i’r cyfarfodydd hyn yw AMSER. Nid yw gwirfoddolwyr eisiau treulio noson gyfan unwaith y mis mewn cyfarfod clwb. Mae’n hanfodol (er mwyn dal gafael ar wirfoddolwyr) sicrhau bod y cyfarfodydd hyn yn rhai byr ac i bwrpas a bod yr holl faterion sydd i’w trafod yn gwbl angenrheidiol. Mae’r cyswllt ar y dde, llyfryn Rhedeg Chwaraeon : Rôl y Cadeirydd, yn ganllaw rhagorol ar gyfer Cadeiryddion clybiau. Efallai eich bod eisiau mynd gam ymhellach a llunio a chytuno ar broses yn datgan sut ddylid cynnal cyfarfod o’r pwyllgor.
Bydd rôl ‘swyddogion’ pwyllgor y clwb yn amrywio o glwb i glwb, gan ddibynnu ar y gamp a maint y clwb. Dim ond un prif bwyllgor fydd rhai clybiau ei angen ond bydd clybiau eraill, mwy, angen cyfres o is-bwyllgorau o bosibl e.e. pwyllgor gemau, pwyllgor iau, pwyllgor perfformiad a / neu bwyllgor hyfforddi, yn cael eu goruchwylio i gyd gan y Pwyllgor Gweithredol.
Bydd y gwaith a wneir gan y swyddogion hyn yn amrywio o glwb i glwb ond, fel yr hyfforddwyr, mae’n rhaid gwobrwyo a chydnabod y gwirfoddolwyr hyn. Mewn gormod o glybiau, dibynnir ar rai swyddogion ymroddedig yn unig i wneud mwyafrif y gwaith. O rannu’r tasgau hyn yn deg, byddai’n llawer haws dal gafael ar y gwirfoddolwyr hyn a sicrhau eu hymroddiad a’u gwasanaeth am gyfnod hwy. Byddai’r gwaith yn llai o faich.
Cliciwch ar y cyswllt gwirfoddolwyr yma, i fynd yn ôl i’r adran sy’n cynnig mwy o wybodaeth am wahanol swyddogaethau gwirfoddol mewn clybiau.
Cydnabyddiaeth