Mwy o glybiau… gwell clybiau

Home » Mynd a'ch clwb ymhellach » Rheoli eich clwb

Cyfarfodydd clwb

CYFARFODYDD

Mae’n rhaid i bob clwb chwaraeon feddu ar strwythur clir ar gyfer trefnu cyfarfodydd y clwb. Dylid cyfeirio at gyfarfodydd clwb yn y cyfansoddiad ac, fel rheol, ceir dau fath o gyfarfod cyffredinol:               

  • Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB);
  • Cyfarfod Cyffredinol Anarferol (CCA).

Nodir y rheolau ar gyfer y cyfarfodydd cyffredinol hyn yn y cyfansoddiad hefyd h.y. cworwm ar gyfer cyfarfod, sawl diwrnod o rybudd sydd ei angen etc.

Cyfarfodyddd Cyffredinol Blynyddol (CCB)

Cynhelir CCB bob blwyddyn gan y clwb er mwyn:

  • ystyried adroddiad blynyddol y clwb;
  • ethol swyddogion ar gyfer y clwb;
  • trafod a phleidleisio ynghylch newidiadau i’r cyfansoddiad neu’r rheolau;
  • llunio cyfrifon blynyddol;  
  • llunio adroddiad blynyddol y Cadeirydd.

Mae’n bwysig sicrhau bod y CCB yn cael cyhoeddusrwydd da (e.e. yr wybodaeth ar gael ar hysbysfwrdd y clwb, yn y wasg leol, mewn adeiladau cymunedol lleol) a bod croeso i’ch aelodau i gyd.  Po fwyaf a ran fyddant yn ei chwarae yn y broses gyfan, gorau oll.  Mae’n rhaid iddynt deimlo’n fodlon bod proses wneud penderfyniadau’r clwb yn deg ac yn cynrychioli holl aelodau’r clwb.  Mae’n gyfle da hefyd i recriwtio ‘gwaed newydd’ i’r clwb ac ar y pwyllgor.  

Fel rheol, mae ysgrifennydd y clwb yn gyfrifol am wneud yr holl drefniadau angenrheidiol ar gyfer y CCB:

  • rhoi lleiafswm o 21 diwrnod (fel rheol) o rybudd o’r CCB;   
  • trefnu lleoliad, dyddiad ac amser addas;   
  • anfon / rhoi gwahoddiadau i aelodau, a ffurflenni enwebu ar gyfer ethol swyddogion, os ydynt yn dymuno.
Cyngor chwaraeon cymru Cefnogwyd gan: Cynulliad Cenedlaethol Cymru Cefnogwyd gan: Y Loteri Genedlaethol Cefnogwyd gan: Her lechyd Cymru