Mwy o glybiau… gwell clybiau

Home » Mynd a'ch clwb ymhellach

Mynd a'ch clwb ymhellach

Wel, mae’r sylfeini yn eu lle.                    

Mae’r adran hon yn ymwneud â chymryd y camau nesaf i symud eich clwb ymlaen ac adeiladu ar yr hyn sydd gennych.

rowing2Nawr bod gennych glwb gyda rhaglen hyfforddi a chwarae reolaidd, hyfforddwyr cymwys, gwirfoddolwyr brwd a’r polisïau a’r gweithdrefnau priodol, efallai eich bod eisiau meddwl am ffyrdd o ddatblygu rhai agweddau ar eich clwb ymhellach e.e.

  • denu mwy o aelodau;        
  • datblygu eich hyfforddwyr;
  • cael mwy o wirfoddolwyr i gymryd rhan i helpu gyda chefnogi eich clwb mwy;
  • gwneud cais am arian i brynu mwy o offer hyfforddi.    

Waeth beth yw eich anghenion, nod yr adran hon yw helpu i’ch arwain i’r cyfeiriad iawn er mwyn mynd â’ch clwb ymhellach. 

Yn gyffredinol, dyma beth a gewch yn yr adran hon.                         

AELODAU: Mae’r adran hon yn edrych ar ffyrdd o gadw cofnod o’ch aelodau presennol ac ystyried sut orau i recriwtio.               

HYFFORDDI: Bydd yr adran hon yn helpu eich clwb i edrych ar ffyrdd o reoli eich hyfforddwyr, helpu hyfforddwyr i wella eu gwybodaeth a’u sgiliau a sicrhau datblygiadau newydd mewn hyfforddi.

GWIRFODDOLWYR: Mae’r adran hon yn ymwneud â recriwtio, dal gafael ar wirfoddolwyr a’u gwobrwyo.                                

Y RHAGLEN CHWARAE:Er mwyn i’ch clwb fod yn llwyddiannus, mae’n hanfodol sefydlu llwybrau a strwythurau i alluogi i bobl ddysgu sgiliau sylfaenol, cymryd rhan ar lefel y maent yn gyfforddus â hi a datblygu eu medrusrwydd ac, os ydynt yn dymuno, perfformio ar y lefel uchaf bosibl.

CYFLEUSTERAU A CHYLLID: Mae’r adran hon yn symud ymlaen i edrych ar ffyrdd eraill o gael hyd i eiddo / agor eich eiddo eich hun i ddefnyddwyr eraill.             

RHEOLI EICH CLWB: Mae’r adran hon yn edrych ar ddatblygu ymhellach y dyletswyddau y mae’n rhaid eu cyflawni i reoli eich clwb yn effeithiol.  

LLES: Gellir defnyddio’r adran hon i helpu eich clwb i fod yn fwy ymwybodol o faterion lles a mabwysiadu’r polisïau a’r dulliau gweithio priodol.

TEGWCH I BAWB: Mae’n bwysig mewn chwaraeon, fel ym mhob maes arall, bod pawb yn gyfartal o ran statws a chyfleoedd.

Cyngor chwaraeon cymru Cefnogwyd gan: Cynulliad Cenedlaethol Cymru Cefnogwyd gan: Y Loteri Genedlaethol Cefnogwyd gan: Her lechyd Cymru