Mwy o glybiau… gwell clybiau

Home » Mynd a'ch clwb ymhellach » Cyfleusterau & chyllid

Rhaglenni a mentrau Cyngor Chwaraeon Cymru

Mae Cyngor Chwaraeon Cymru (CChC) yn gweithredu nifer o gynlluniau cyllido sy’n ceisio cynyddu cyfranogiad a gwella perfformiad yn y byd chwaraeon / gweithgarwch corfforol yng Nghymru.  Mae gan CChC flaenoriaethau clir ar gyfer cyllido.  Asesir pob prosiect yn erbyn dwy gyfres o feini prawf:

  • y manteision i chwaraeon / gweithgarwch corfforol e.e. cynyddu nifer y bobl yn cymryd rhan mewn chwaraeon / gweithgarwch corfforol neu godi safonau perfformioCyfleusterau - Trampolin                              
  • darparu cyfleoedd newydd neu well ar gyfer plant oed ysgol; merched a genethod; pobl gydag anableddau; grwpiau lleiafrifoedd ethnig; a phobl mewn ardaloedd o gyni economaidd neu gyfranogiad isel mewn chwaraeon / gweithgarwch corfforol. 

Misc 005Y Gist Gymunedol

Prif ddiben y Gist Gymunedol yw cefnogi prosiectau da a fydd yn creu cyfleoedd chwaraeon a gweithgarwch corfforol newydd neu well sy’n ychwanegol at yr hyn a gynigir eisoes ac na fyddai’n digwydd heb grant.  Y grant mwyaf a geir mewn unrhyw gyfnod o 12 mis yw £1,000.    

Mân-Grantiau

Mae’r fenter hon yn cynnig cyllid ar gyfer prosiectau sy’n creu cyfleoedd newydd, ychwanegol neu well i gymryd rhan mewn chwaraeon / gweithgarwch corfforol.  Defnyddir y cynllun hwn i annog unigolion, teuluoedd a chymunedau i fod yn fwy egnïol.  Gellir dyfarnu grantiau gwerth rhwng £1,000 a £10,000.  Ni all cyfanswm costau’r prosiect fod yn fwy na £12,500.

Grantiau Cyfalaf

Mae hyn yn cynnwys grantiau cyfalaf bychain (dyfarniadau o hyd at £50k) a grantiau cyfalaf mawr (dyfarniadau o hyd at £250k). 

Sportsmatch

SpMchLogo copy2Mae’r cynllun yn darparu cyswllt hanfodol rhwng y sector masnachol a datblygiad chwaraeon ar lefel gyffredin, ac mae’n cynnig i sefydliadau (yn cynnwys clybiau, Cyrff Rheoli Cenedlaethol ac Awdurdodau Lleol) gefnogaeth gyda phrosiectau sy’n cynyddu cyfranogiad ar lefel gyffredin, drwy gyfateb buddsoddiad '£ am £' gan y sector preifat.  Mae’r dyfarniadau’n amrywio o leiafswm o £300 (gall hyd at dri noddwr gyfrannu’r swm yma - £100 y noddwr fel rheol) i uchafswm o £50,000.

Cyngor chwaraeon cymru Cefnogwyd gan: Cynulliad Cenedlaethol Cymru Cefnogwyd gan: Y Loteri Genedlaethol Cefnogwyd gan: Her lechyd Cymru