Mwy o glybiau… gwell clybiau

Home » Mynd a'ch clwb ymhellach » Cyfleusterau & chyllid

Cyllido

money2Mae’r adran hon yn cynnig gwybodaeth am nifer o ffynonellau cyllido amrywiol y mae’n werth eu hystyried o bosibl os ydych wedi meddwl am brosiect penodol e.e.

  • prynu mwy o offer i gynyddu aelodaeth
  • cymhwyso mwy o hyfforddwyr i helpu gyda chyflwyno rhaglen clwb fwy
  • cyflwyno chwaraeon / cyfleusterau newydd yn eich clwb i’w hyfforddi pan nad yw’n cael ei ddefnyddio e.e. grŵp ffitrwydd, clwb chwaraeon ymladd
  • gwella defnydd cymunedol
  • cynnig cyfleoedd i bobl ieuainc / oedolion anabl.       

Cyn edrych ar y ffynonellau cyllido amrywiol, efallai ei bod yn werth troi at eich aelodau yn y lle cyntaf i weld a allwch chi godi’r arian rydych ei angen – drwy nawdd, rhoddion, benthyciad di-log neu arwerthiant cist car.                                    

Mae nifer o glybiau’n cynnal achlysuron codi arian rheolaidd drwy drefnu gweithgareddau nawdd, defnyddio sêr lleol, rafflau a / neu nosweithiau cwis.  Mae angen caniatâd gan yr Heddlu neu eich Cyngor Lleol ar gyfer rhai mathau o godi arian e.e. casglu ar y stryd a loteri breifat.                                                                       

Os nad ydy codi arian yn lleol yn talu am holl gostau’r prosiect mae’n werth ystyried y cysylltiadau ar y dde i weld a oes unrhyw rai addas i'ch helpu symud ymlaen gyda'r prosiect.  Mae’r rhan fwyaf o’r rhaglenni a restrir isod ac ar y dde angen cyfraniad gan yr ymgeisydd fel rheol – felly mae’n well trafod gyda’r sefydliad am wybodaeth bellach.  

Cyngor chwaraeon cymru Cefnogwyd gan: Cynulliad Cenedlaethol Cymru Cefnogwyd gan: Y Loteri Genedlaethol Cefnogwyd gan: Her lechyd Cymru