Mwy o glybiau… gwell clybiau

Home » Mynd a'ch clwb ymhellach » Tegwch i bawb

Buddion cydraddoldeb

Beth yw manteision Tegwch i’ch clwb?   

  • Cynnydd yn lefel y cymryd rhan a’r gefnogaeth gan wirfoddolwyr;
  • Bydd y cyhoedd yn edrych yn fwy positif ar eich clwb a’ch camp;  
  • Bydd sicrhau statws tecach yn eich clwb yn cynyddu ei apêl i fwy o bobl ac felly gall gynyddu aelodaeth a refeniw a denu cefnogaeth refeniw;                                 
  • Bydd nifer y bobl sy’n gallu gwneud gwaith gweinyddol, hyfforddi a rheoli, a’r gwirfoddolwyr, yn cynyddu;                      
  • Mae sefydliad mwy amrywiol yn adlewyrchu’r gymuned mae’n ei gwasanaethu, o ran y staff ar lefel reoli, gweithredol, swyddog a gwirfoddolwr, yn debygol o fod yn fwy blaengar, gan ymateb yn well i anghenion amrywiol holl aelodau’r gymuned honno.  Bydd y gwasanaethau a gynigir gan eich sefydliad yn gwella a’r canlyniad tebygol fydd mwy o foddhad ymhlith y cwsmeriaid;
  • Mae cadw at degwch mewn chwaraeon yn golygu y byddwch yn gweithio oddi mewn i’r gyfraith.  Cefnogir tegwch mewn chwaraeon gan ddeddfwriaeth, yn cynnwys y Ddeddf Cysylltiadau Hiliol a’r Ddeddf Cysylltiadau Hiliol (Diwygiedig), y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Rhyw a’r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd;   
  • Byddwch yn gweithio’n unol ag agenda’r Llywodraeth ac yn fwy tebygol o dderbyn neu barhau i dderbyn arian i ddatblygu eich camp.    

Ceir cyfarwyddyd pellach o gwefanau Department of Media, Culture and Sport; Sporting Equals a UK Sport Standards in Sport

Cyngor chwaraeon cymru Cefnogwyd gan: Cynulliad Cenedlaethol Cymru Cefnogwyd gan: Y Loteri Genedlaethol Cefnogwyd gan: Her lechyd Cymru