Mwy o glybiau… gwell clybiau

Home » Mynd a'ch clwb ymhellach » Hyfforddi

Y Darlun Cyflawn

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r llywodraeth wedi dechrau canolbwyntio ar broffesiynoldeb y diwydiant hyfforddi. Yn hanesyddol, mae pob corff rheoli chwaraeon wedi datblygu ei strwythur unigryw o gymwysterau hyfforddi, sydd wedi arwain at wahaniaethu rhwng Cymru a’r gwledydd cartref eraill.  Mae Tystysgrif Hyfforddi’r DG (THDG) yn fenter i safoni rhaglenni addysgu hyfforddwyr mewn 31 o gampau yn y DG.  Yn ogystal â phob camp yn cael elfen chwaraeon-benodol, ceir elfennau generig ychwanegol hefyd, sy’n debyg ym mhob camp.  Gobeithir felly y bydd THDG nid yn unig yn caniatáu dull safonol o weithredu ond, hefyd, yn gwella ac yn sicrhau safon oddi mewn i’r cymwysterau.                                                     

Felly, erbyn diwedd 2007, bydd fframwaith pump lefel o gymwysterau chwaraeon ar gyfer y DG i gyd yn ei le drwy gyfrwng llwybr THDG.                   

I hyfforddwyr, bydd hyn yn golygu:

  • Bydd unrhyw gymhwyster a enillir gennych yn cael ei gydnabod ym mhob man yn y DG;
  • Gallwch drosglwyddo eich cymwysterau i chwaraeon eraill yn haws a bydd modd eu trosglwyddo o un wlad i’r llall yn y Deyrnas Gyfunol;
  • Bydd modd sicrhau ansawdd yr hyfforddiant a ddarperir;
  • Bydd modd sicrhau ansawdd y strwythur gweinyddu a rheoli a fydd yn ei le.                                                   

Bydd hyn yn arwain at system addysgu hyfforddwyr fwy proffesiynol ac effeithiol.  Am wybodaeth bellach am THDG, cliciwch ar y cyswllt isod.

O ganlyniad i gyflwyno THDG, mae pob Corff Rheoli Cenedlaethol wedi llunio CYNLLUN HYFFORDDI unigol.  Amcanion y cynllun hyfforddi yw:        

  • Cynyddu nifer yr hyfforddwyr, yr arweinwyr a’r athrawon gwirfoddol a phroffesiynol (MWY O HYFFORDDWYR);
  • Codi safon yr hyfforddi ledled Cymru (GWELL HYFFORDDWYR).     

O ganlyniad i ddadansoddiad o anghenion, bydd y Cyrff Rheoli Cenedlaethol mewn gwell sefyllfa i allu gweithredu ar y cyd mewn perthynas â hyfforddi, cyflogi, defnyddio a rheoli hyfforddwyr.      

Cyngor chwaraeon cymru Cefnogwyd gan: Cynulliad Cenedlaethol Cymru Cefnogwyd gan: Y Loteri Genedlaethol Cefnogwyd gan: Her lechyd Cymru