Mwy o glybiau… gwell clybiau

Home » Mynd a'ch clwb ymhellach » Hyfforddi

Ariannu

Y Gist Gymunedol

10889.12249.file.engOs oes un criw o bobl (y prif wirfoddolwyr) yn allweddol ar gyfer chwaraeon yng Nghymru, yr hyfforddwyr yw’r rhain. Mae addysgu hyfforddwyr yn hollbwysig ac ni ddylid caniatáu i unrhyw rwystr atal hyn, yn arbennig cyllid. Rhaglen gan Gyngor Chwaraeon Cymru (CChC) a gyllidir gan y Loteri Genedlaethol yw’r Gist Gymunedol. Ei diben yw gwneud gwahaniaeth i chwaraeon lleol a chefnogi gweithgareddau a fydd yn cynyddu cyfranogiad a chodi safonau perfformio mewn chwaraeon, yn arbennig ymhlith pobl ieuainc.  Mae hyn yn golygu y gall clwb chwaraeon wneud cais am gyllid tuag at gyrsiau addysgu hyfforddwyr ar gyfer ei hyfforddwyr a’i wirfoddolwyr.              

Mae clybiau’n gymwys i wneud cais ar ran yr hyfforddwyr, ar yr amod bod gan y clwb gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn enw’r sefydliad.  Dylai’r clybiau gysylltu â swyddog lleol y Gist Gymunedol.    

Gallwch hefyd lawr lwytho’r ffurflenni cais or adran grantiau ar gwefan Cyngor Chwaraeon Cymru.         

Efallai y bydd cyllid ar gael gan eich corff rheoli cenedlaethol hefyd, ar ffurf bwrsarïau hyfforddi, neu efallai ei fod yn gwybod am gyfleoedd cyllido eraill.

Cyngor chwaraeon cymru Cefnogwyd gan: Cynulliad Cenedlaethol Cymru Cefnogwyd gan: Y Loteri Genedlaethol Cefnogwyd gan: Her lechyd Cymru