Mwy o glybiau… gwell clybiau

Home » Mynd a'ch clwb ymhellach » Hyfforddi

Moeseg a chod ymddygiad ar gyfer hyfforddwyr chwaraeon

Oppy Bala 2003 026Mae Tegwch mewn Chwaraeon yn ymwneud â defnydd cyfartal, adnabod annhegwch a chymryd camau i roi sylw iddynt, ac mae’n rhaid i hyfforddwyr ddangos lefel uchel o onestrwydd ac integriti bob amser. Fel hyfforddwr, eich cyfrifoldeb chi yw: adnabod annhegwch; sicrhau bod pobl anabl, pobl o leiafrifoedd ethnig a merched a genethod yn gallu mynychu eich sesiynau hyfforddi;  sicrhau bod pob cyfranogwr yn cael ei drin yn gyfartal, gan gydnabod bod gan wahanol bobl wahanol anghenion a dyheadau, gan weithredu’n bositif er mwyn sicrhau bod eich camp ar gael yn deg i bawb mewn cymdeithas.                       

Mae’n bwysig bod hyfforddwyr yn deall ac yn gweithredu ar eu cyfrifoldebau tra’n cynnal y cysyniad allweddol o gyfranogiad er pleser yn ogystal ag er mwyn cyflawni.  Mae’r cod ymddygiad yn diffinio popeth gorau mewn hyfforddi da. 

Efallai fod gan eich corff rheoli chwaraeon ei god ymddygiad ei hun ar gyfer hyfforddwyr.  Mae’n syniad da cysylltu â’ch camp i ganfod pa wybodaeth sydd ganddi ar gael.  Mae’r cod ymddygiad ar gyfer hyfforddwyr wedi’i ddatblygu gan sports coach UK. Mae’r cod yn canolbwyntio ar y pedair egwyddor a ganlyn:

  • Hawliau – mae’n rhaid i hyfforddwyr barchu a hyrwyddo hawliau pob unigolyn i gymryd rhan mewn chwaraeon;
  • Perthnasoedd – mae’n rhaid i hyfforddwyr ddatblygu perthynas gydag athletwyr (ac eraill) yn seiliedig ar fod yn agored, gonestrwydd, cyd-ymddiriedaeth a pharch;
  • Cyfrifoldebau, safonau personol – mae’n rhaid i hyfforddwyr ymddwyn yn briodol bob amser;                           
  • Cyfrifoldebau, safonau proffesiynol – sicrhau cymaint o fanteision ag y bo modd a chyn lleied o beryglon ag y bo modd i athletwyr, mae’n rhaid i hyfforddwyr gynnal safon uchel o fedrusrwydd drwy gyfrwng cymwysterau ac ymrwymiad i hyfforddiant parhaus sy’n sicrhau arfer ddiogel a chywir.                

Mae’r cod yn hynod bwysig ac argymhellir bod pob hyfforddwr yn sicrhau copi.  Gellir ei brynu gan Coachwise am bris o £2.50

Gwybodaeth Bellach

Gellir cael gwybodaeth bellach am faterion tegwch drwy gyfrwng y gweithdy Tegwch yn Eich Hyfforddiant gan sports coach UK.  Bydd y gweithdy teirawr hwn o gymorth i chi, fel hyfforddwr, i:

  • Egluro beth yw ystyr tegwch a pham ei fod yn bwysig;
  • Adnabod rhwystrau sy’n atal cyfranogiad;
  • Defnyddio iaith a therminoleg briodol;    
  • Adnabod a herio ymddygiad annheg;             
  • Dehongli fframwaith cyfreithiol sy’n effeithio ar hyfforddiant;
  • Deall sut mae bod yn decach.
Cyngor chwaraeon cymru Cefnogwyd gan: Cynulliad Cenedlaethol Cymru Cefnogwyd gan: Y Loteri Genedlaethol Cefnogwyd gan: Her lechyd Cymru