Mwy o glybiau… gwell clybiau

Home » Mynd a'ch clwb ymhellach » Hyfforddi

Diogelu Plant a Lles

boxing2Mae wedi dod yn fwyfwy pwysig i hyfforddwyr fod yn ymwybodol o faterion amddiffyn plant. Mae sawl corff rheoli chwaraeon yn rhoi sylw i’r pwnc hwn fel rhan o’u cymwysterau hyfforddi ac yn gofyn i hyfforddwyr fynychu cwrs ymwybyddiaeth. Cewch wybodaeth bellach am amddiffyn plant drwy:                                                  

  • Mynychu gweithdy;     
  • Darllen cyhoeddiad / pecyn Astudio Gartref;
  • Cysylltu â sefydliad cyfrifol am amddiffyn plant.

Gwirio Record Droseddol

Prosesir hyn drwy gyfrwng y Biwro Cofnodion Troseddol (BCC) ond dim ond ar gyfer y staff a’r gwirfoddolwyr sy’n gweithio gyda phlant ac oedolion bregus y gellir gwneud hyn. 

Asiantaeth gan y Llywodraeth yw’r BCC ac mae’n darparu ‘siop-un-stop’ ar gyfer y rhai sydd eisiau gweld cofnodion troseddol.  Mae’n cynnig gwybodaeth a gedwir ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu (CCH) a rhestri perthnasol a gedwir gan yr Adran Iechyd (AI) ac Addysg a Sgiliau (AAS).  Hefyd, dan rai amgylchiadau, darperir gwybodaeth gan heddluoedd lleol.  Datgeliad yw’r ddogfen sy’n cynnwys gwybodaeth o’r fath am record droseddol.                          

Mae gwasanaeth datgelu’r BCC yn cynnig i sefydliadau cofrestredig gyfrwng i wirio cefndir y gwirfoddolwyr a’r staff cyflogedig a gellir defnyddio’r wybodaeth hon fel RHAN o broses recriwtio fanwl.       

Gellir cynnal profion y BCC mewn dwy ffordd.  Datgeliad safonol a Datgeliad Ehangach.      

Gydag ymchwiliad Bishard, a oedd yn adolygu achos Ian Huntley, argymhellwyd mai dim ond Profion Ehangach ddylid eu cynnal ar unigolion yn gweithio gyda phlant.                         

Mae datgeliad ehangach yn cynnwys yr un wybodaeth â datgeliad safonol, ond fe ALL gynnwys gwybodaeth am gyhuddiadau heb dderbyn euogfarnau o gofnodion yr heddlu lleol, os yw prif swyddog yn teimlo y gall hyn fod yn berthnasol, fel ymchwiliadau neu honiadau blaenorol.

Mae profion y BCC ar gyfer staff cyflogedig yn costio £33 ond mae datgeliadau ar gyfer gwirfoddolwyr yn RHAD AC AM DDIM.

Uned Cofnodion Troseddol

Mae UCT yn gorff ymbarél cofrestredig gyda’r BCC.  Sefydlwyd yr uned yng Nghymru yn unig i helpu gyda recriwtio staff a gwirfoddolwyr sy’n gweithio gyda phlant yn y sector gwirfoddol yn ddiogel. Mae’r uned hefyd yn darparu cyngor, gwybodaeth a hyfforddiant i sefydliadau gwirfoddol ar gyfer defnyddio’r gwasanaeth datgelu.

NI CHEIR ffïoedd ar gyfer defnyddio’r uned hon.  Yr unig ffïoedd a godir gan y BCC yw ar gyfer profion ar weithwyr CYFLOGEDIG.  Mae profion ar wirfoddolwyr yn RHAD AC AM DDIM.

Cyswllt â’r Uned Cofnodion Troseddol        

Cyngor chwaraeon cymru Cefnogwyd gan: Cynulliad Cenedlaethol Cymru Cefnogwyd gan: Y Loteri Genedlaethol Cefnogwyd gan: Her lechyd Cymru