Mwy o glybiau… gwell clybiau

Home » Mynd a'ch clwb ymhellach » Hyfforddi

Dyfod yn Well Hyfforddwr

Fel hyfforddwr, mae’n bwysig eich bod yn derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf am bob datblygiad er mwyn sicrhau eich bod yn darparu’r amgylchedd priodol ar gyfer y rhai yr ydych yn eu hyfforddi. Pa un ai ydych yn hyfforddi o’r newydd neu wedi bod yn hyfforddi ers blynyddoedd lawer, mae’n bwysig cael gwybod am unrhyw ddatblygiadau newydd yn y byd hyfforddi.    

golffMae sawl peth y gallwch ei wneud i wella eich gallu i hyfforddi a’ch gwybodaeth, a gelwir hyn yn Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP).  Mae cyrsiau’n arwain at gymwysterau’n hanfodol ac yn profi’n eithriadol fuddiol, ond nid yw hyn yn golygu bod raid i chi ddal ati i fynychu cyrsiau ar lefel newydd, oherwydd mae cymaint o bethau eraill i hyfforddwyr eu gwneud hefyd.  Gallai DPP fod yn

  • Mynychu gweithdai neu seminarau achlysurol;      
  • Benthyg llyfrau hyfforddi, cylchgronau neu’r gwaith ymchwil diweddaraf sy’n berthnasol i’ch camp;
  • Ymweld â gwefannau sefydliadau hyfforddi neu chwaraeon y mae gennych ddiddordeb ynddynt;
  • Cysylltu â hyfforddwyr eraill a chyfnewid syniadau;
  • Arsylwi hyfforddwyr eraill a gofyn i hyfforddwyr eraill eich gwylio chi.

Yn ogystal ag ennill cymhwyster Corff Rheoli Cenedlaethol yn y gamp o’ch dewis chi, gallwch ychwanegu at eich cymwysterau drwy ennill cymhwyster cyffredinol a gynigir gan sefydliadau hyfforddi erailll.  Ceir rhestr o’r sefydliadau a’r cyrsiau hyn drwy glicio ar y cyswllt a ganlyn - Hyfforddiant Cymru.                       

Mentora  

Mae hyfforddi fel proffesiwn yn datblygu o hyd ac mae angen cyfle i hyfforddwyr wella eu gwybodaeth a’u sgiliau mewn ffyrdd gwahanol i ennill cymwysterau swyddogol.  Bydd mentora’n dod yn fwyfwy pwysig felly.                                

Gall mentora brofi’n ffordd ragorol o ddatblygu fel hyfforddwr ac mae’n galluogi i unigolyn ddilyn llwybr hyfforddwr mwy profiadol a llwyddiannus, sy’n gallu rhannu gwybodaeth a phrofiad ac agor drysau ar gyfleoedd na ellir eu cael fel arall.  Bydd hyn yn sicrhau bod hyfforddwr unigol yn gallu cyrraedd ei lawn botensial.  Mae mentora’n arf pwerus wrth addysgu a datblygu hyfforddwyr chwaraeon ar bob lefel.                  

Mae THDG yn rhoi pwyslais cynyddol ar fentora ac mae’n debygol y daw hyn yn ganolog wrth hyfforddi hyfforddwyr yn y dyfodol.           

Am wybodaeth bellach am y cyfleoedd i gael eich mentora, cysylltwch â Chorff Rheoli Cenedlaethol eich camp.  Bydd yn gallu eich rhoi mewn cysylltiad â Chydlynydd Addysgu Hyfforddwyr y CRhC, a fydd yn gallu eich cynghori.

Os am fod yn fentor, efallai yr hoffech gysylltu â’ch corff rheoli am gyngor neu gallech gofrestru ar gwrs sports coach UK, sef Canllaw i Fentora Hyfforddwyr Chwaraeon.  Mae hwn yn weithdy teirawr i’ch helpu i ddeall gwaith mentor; deall sut mae’r dysgu’n digwydd a sut mae modd cefnogi hyfforddwyr.                         

Yn olaf ceir llyfr astudio gartref yn dwyn yr enw A Guide to Mentoring Sports Coaches.  Mae hwn ar gael gan Coachwise am bris o £9.99.

Cliciwch ar gyfer y cyswllt

Cyngor chwaraeon cymru Cefnogwyd gan: Cynulliad Cenedlaethol Cymru Cefnogwyd gan: Y Loteri Genedlaethol Cefnogwyd gan: Her lechyd Cymru