Mwy o glybiau… gwell clybiau

Home » Mynd a'ch clwb ymhellach » Hyfforddi

Dyfod yn Well Hyfforddwr

Merched a Hyfforddiant

Swyddog hociMae hyfforddwyr yn rhan annatod o chwaraeon ac mae sicrhau cynrychiolaeth dda o hyfforddwyr benywaidd yr un mor bwysig.  Cydnabyddir yn eang bod diffyg hyfforddwyr benywaidd yn y DG ac mae rhoi sylw i’r anghydbwysedd hwn rhwng y rhywiau’n faes pwysig ar gyfer chwaraeon yn y DG – mae’r angen am fwy o hyfforddwyr benywaidd yn bwysig am sawl rheswm.  I ddechrau, mae hyfforddwyr benywaidd yn esgor ar sgiliau a phrofiadau newydd ac yn gallu gweithredu fel modelau rôl ar gyfer plant iau, gan gymell merched eraill a meithrin hyder ynddynt i gymryd rhan mewn chwaraeon neu hyd yn oed fod yn hyfforddwyr eu hunain.

Mae cymryd rhan yn hawdd.  Does dim rhaid i chi fod yn chwaraewr gorau’r byd na meddu ar unrhyw gymwysterau chwaraeon.  Mae chwaraeon amrywiol yn gallu darparu hyfforddiant sylfaenol i chi ddechrau arni a gallwch ddatblygu mor bell ag y mynnwch.  Y cyfan rydych ei angen yw parodrwydd i gymryd rhan.  Hyd yn oed os mai dim ond awr neu ddwy allwch chi eu cyfrannu, mae digon o glybiau a sefydliadau chwaraeon yn chwilio am wirfoddolwyr brwd ac awyddus.  Mae cynllun Campau’r Ddraig yn ffordd ddelfrydol o ddechrau cymryd rhan fel hyfforddwr.  Mae’r cynllun hwn yn darparu gweithgareddau chwaraeon allgyrsiol i blant ac mae nifer o’r clybiau wedi’u lleoli mewn ysgolion.                  

Cyngor chwaraeon cymru Cefnogwyd gan: Cynulliad Cenedlaethol Cymru Cefnogwyd gan: Y Loteri Genedlaethol Cefnogwyd gan: Her lechyd Cymru