Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth. Dywedwch wrthym os na wnaethoch chi ddod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano
Wel, mae’r sylfeini yn eu lle.
Mae’r adran hon yn ymwneud â chymryd y camau nesaf i symud eich clwb ymlaen ac adeiladu ar yr hyn sydd gennych.
Nawr bod gennych glwb gyda rhaglen hyfforddi a chwarae reolaidd, hyfforddwyr cymwys, gwirfoddolwyr brwd a’r polisïau a’r gweithdrefnau priodol, efallai eich bod eisiau meddwl am ffyrdd o ddatblygu rhai agweddau ar eich clwb ymhellach e.e.
Waeth beth yw eich anghenion, nod yr adran hon yw helpu i’ch arwain i’r cyfeiriad iawn er mwyn mynd â’ch clwb ymhellach.
Yn gyffredinol, dyma beth a gewch yn yr adran hon.
AELODAU: Mae’r adran hon yn edrych ar ffyrdd o gadw cofnod o’ch aelodau presennol ac ystyried sut orau i recriwtio.
HYFFORDDI: Bydd yr adran hon yn helpu eich clwb i edrych ar ffyrdd o reoli eich hyfforddwyr, helpu hyfforddwyr i wella eu gwybodaeth a’u sgiliau a sicrhau datblygiadau newydd mewn hyfforddi.
GWIRFODDOLWYR: Mae’r adran hon yn ymwneud â recriwtio, dal gafael ar wirfoddolwyr a’u gwobrwyo.
Y RHAGLEN CHWARAE:Er mwyn i’ch clwb fod yn llwyddiannus, mae’n hanfodol sefydlu llwybrau a strwythurau i alluogi i bobl ddysgu sgiliau sylfaenol, cymryd rhan ar lefel y maent yn gyfforddus â hi a datblygu eu medrusrwydd ac, os ydynt yn dymuno, perfformio ar y lefel uchaf bosibl.
CYFLEUSTERAU A CHYLLID: Mae’r adran hon yn symud ymlaen i edrych ar ffyrdd eraill o gael hyd i eiddo / agor eich eiddo eich hun i ddefnyddwyr eraill.
RHEOLI EICH CLWB: Mae’r adran hon yn edrych ar ddatblygu ymhellach y dyletswyddau y mae’n rhaid eu cyflawni i reoli eich clwb yn effeithiol.
LLES: Gellir defnyddio’r adran hon i helpu eich clwb i fod yn fwy ymwybodol o faterion lles a mabwysiadu’r polisïau a’r dulliau gweithio priodol.
TEGWCH I BAWB: Mae’n bwysig mewn chwaraeon, fel ym mhob maes arall, bod pawb yn gyfartal o ran statws a chyfleoedd.
Cydnabyddiaeth