Mwy o glybiau… gwell clybiau

Home » Sefydlu a Datblygu eich clwb » Lles

Swyddog Lles

Argymhellir bod pob clwb yn penodi Swyddog Lles sy’n gyfrifol am sicrhau y cedwir at y gweithdrefnau priodol, ac i fod yn bwynt cyswllt cyntaf ar gyfer y clwb. Gellir cael hyd i demplad ar gyfer rôl y Swyddog Lles yn yr adnoddau.

Mae’n bwysig bod pawb yn y clwb yn ymwybodol o’r ffaith bod pawb yn gyfrifol ar y cyd am weithredu’r gweithdrefnau, waeth beth yw eu statws neu eu rôl.

Mae templad o swydd-ddisgrifiad ar gyfer Swyddog Lles yma. Dylid nodi enw a manylion cyswllt y Swyddog Cyswllt yn eglur yn y clwb, a’u rhoi i rieni ac aelodau – yn aelodau presennol a’r rhai newydd. Y person hwn wedyn fydd y pwynt cyswllt i aelodau eraill o staff, rhieni a phlant, ac i sefydliadau eraill fel yr Heddlu, yr Awdurdod Lleol neu’r Gwasanaethau Cymdeithasol.

Dylai unrhyw swyddog, gwirfoddolwr, hyfforddwr neu oedolyn cyfrifol arall sydd ag unrhyw bryderon roi gwybod am y pryderon hyn i’r Swyddog Lles, ynghyd â’r holl fanylion a ysgrifennwyd ac a arwyddwyd gan ddefnyddio ffurflen safonol ar gyfer cofnodi digwyddiad.

Os yw’r Swyddog Lles yn meddwl ei bod yn bosibl bod unigolyn wedi cael ei gamdrin, bydd raid iddo roi gwybod i’r Adran Gwaith Cymdeithasol, yr Heddlu a’r CRhC.

Cyngor chwaraeon cymru Cefnogwyd gan: Cynulliad Cenedlaethol Cymru Cefnogwyd gan: Y Loteri Genedlaethol Cefnogwyd gan: Her lechyd Cymru