Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth. Dywedwch wrthym os na wnaethoch chi ddod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano
Mae’n rhaid sgrinio oedolion sy’n dod i gysylltiad â phobl ieuainc ac oedolion bregus yn y clwb bob amser. Gall y sgrinio ymo fod ar sawl ffurf:
Dylid defnyddio’r broses sgrinio’n gyson gyda’r holl staff sydd wedi’u recriwtio neu’u cyflogi yn y clwb. Gellir gofyn i wirfoddolwyr presennol ddarparu’r un wybodaeth â’r gwirfoddolwyr newydd.
Yng Nghymru, gall cyflogwyr a grwpiau gwirfoddol gysylltu ag Uned Cofnodion Troseddol (UCT) Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) am gyngor, gwybodaeth a hyfforddiant ar gyfer defnyddio’r gwasanaeth datgelu. Mae’r WCVA yn sefydliad cofrestredig gyda’r Biwro Cofnodion Troseddol (BCT) ac mae’n gweithredu ar ran y sector gwirfoddol yng Nghymru. Mae’r Uned Cofnodion Troseddol yn ymroddedig i ddarparu gwasanaeth dwyieithog proffesiynol i gwsmeriaid gan gynnig mynediad i gofnodion troseddol drwy gyfrwng Gwasanaeth Datgelu’r BCT. NI CHODIR UNRHYW FFI am ddefnyddio’r uned. Yr unig daliad fydd raid ei wneud fydd cost y BCT am wirio gweithwyr CYFLOGEDIG. Gellir gwirio gwirfoddolwyr AM DDIM. Bydd raid i bob sefydliad sy’n dymuno defnyddio UCT yr WCVA gofrestru fel defnyddiwr awdurdodedig.
Mae gwirio cofnodion troseddol / datgeliadau’n helpu clybiau i wneud penderfyniadau recriwtio’n ddiogel ar gyfer swyddi sy’n cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion bregus.
Drwy gyfrwng y broses hon, mae’r sefydliad chwaraeon yn gallu canfod a oes gan yr ymgeisydd neu’r gwirfoddolwr gefndir a allai ei wneud yn anaddas ar gyfer swydd.
Dim ond rhan o’r broses recriwtio yw’r gwirio gyda’r heddlu neu’r cofnodion troseddol ac ni ddylid dibynnu ar y cyfrwng hwn fel yr unig ffordd o leihau’r risg o recriwtio pobl anaddas ar gyfer swyddi lle ceir cysylltiad agos â phlant neu bobl fregus.
Bydd safonau da yn eich clwb yn rhoi hyder i bobl a byddant yn fwy tebygol o fod eisiau ymuno. Fel clwb, mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r un gweithdrefnau’n gyson gyda gwirfoddolwyr a staff cyflogedig, boed yn rhan amser neu’n llawn amser. Ac fel y daw’r gweithdrefnau’n rhan fwy arferol o’ch dulliau gweithredu, byddant yn llai annifyr i ymgeiswyr didwyll a brwd.
Am wybodaeth bellach am ganllawiau eich camp / gweithgaredd penodol, cysylltwch â’ch CRhC. Hefyd, bydd eich Awdurdod Lleol yn gallu darparu cyngor a chyfarwyddyd.
Cydnabyddiaeth