Mwy o glybiau… gwell clybiau

Home » Sefydlu a Datblygu eich clwb » Gwirfoddolwyr

Yswiriant

Mae yswiriant yn gyfrifoldeb hanfodol i bob clwb. Mae’n bwysig sicrhau bod gennych ddigon o yswiriant i warchod y gweithgareddau y mae eich clwb yn eu cyflwyno.  Os oes gennych unrhyw bryderon neu ymholiadau, dylech fynd at eich Corff Rheoli Cenedlaethol, y Swyddog Datblygu Chwaraeon a gyflogir gan eich Awdurdod Lleol neu eich cwmni yswiriant - ymwelwch a Perkins Slade am fwy o wybodaeth.     

Dylech wneud yn siwr bod eich gwirfoddolwyr yn ymwybodol o’r math o yswiriant sydd gan eich clwb a beth mae’n eich gwarchod rhagddo, yn cynnwys unrhyw gyfyngiadau.  Gwnewch yn siwr bod y gwirfoddolwyr yn deall ac yn gweithio oddi mewn i’r disgrifiad o’u rôl a bod gan y cwmni yswiriant fanylion am yr holl swyddogaethau gwirfoddol. 

Os oes gennych yrwyr gwirfoddol, dylech wneud yn siwr bod eu hyswiriant car yn eu gwarchod wrth ddefnyddio eu car ar gyfer y diben hwn.  Os yw’r gwirfoddolwyr yn gyrru cerbydau sy’n eiddo i’r clwb, gwiriwch bod yswiriant priodol yn eu gwarchod i wneud hyn.  Cofiwch ddiweddaru eich manylion yswiriant yn rheolaidd, gan ychwanegu unrhyw newidiadau.

Ceir gwybodaeth bellach am y wefan Rhedeg Chwaraeon newydd yn y dde.  Mae hwn yn safle newydd, yn arbennig ar gyfer gwirfoddolwyr mewn chwaraeon, felly bydd yn cynnig cefnogaeth a chyngor i chi.

Cyngor chwaraeon cymru Cefnogwyd gan: Cynulliad Cenedlaethol Cymru Cefnogwyd gan: Y Loteri Genedlaethol Cefnogwyd gan: Her lechyd Cymru