Mwy o glybiau… gwell clybiau

Home » Sefydlu a Datblygu eich clwb » Gwirfoddolwyr

Gwirfoddolwyr

Gweinyddwyr, swyddogion, hyfforddwyr a chynorthwywyr gwirfoddol yw asgwrn cefn eich clwb; mae eu cyfraniad gwerthfawr yn haeddu cydnabyddiaeth sylweddol – hebddynt ni fyddai modd gwneud unrhyw beth. Mae pobl dda angen cefnogaeth ac mae’n rhaid i chi ofalu amdanynt. Os na fyddwch yn gwneud hynny, bydd ganddynt ddigonedd o bethau eraill i’w gwneud gyda’u hamser.   

Mae nifer o wirfoddolwyr unigol yn gorfod cario gormod o faich ac, oherwydd hyn, mae clybiau’n cael anhawster i recriwtio a dal gafael ar wirfoddolwyr.

Wrth i amser pobl ddod yn fwy a mwy gwerthfawr, mae’n hanfodol bod clybiau’n ystyried sut i recriwtio, cefnogi, cydnabod a gwobrwyo’r adnodd amhrisiadwy hwn …… Y Gwirfoddolwr. Sailing members Gowers

Bydd yr adnoddau a welwch ar yr ochr dde’n rhoi gwybodaeth i chi am recriwtio, rheoli, cefnogi a chydnabod gwirfoddolwyr eich clwb. Mae’r llyfryn 'Running Sport: Volunteers' booklet' yn fan cychwyn rhagorol. Mae hwn yn ganllaw cynhwysfawr sy’n recriwtio ac yn hyfforddi gwirfoddolwyr ar gyfer unrhyw sefydliad chwaraeon / gweithgarwch corfforol.                               

Cyngor chwaraeon cymru Cefnogwyd gan: Cynulliad Cenedlaethol Cymru Cefnogwyd gan: Y Loteri Genedlaethol Cefnogwyd gan: Her lechyd Cymru