Mwy o glybiau… gwell clybiau

Home » Sefydlu a Datblygu eich clwb » Gwirfoddolwyr

4 o Swyddi Hanfodol

Cyfrifoldeb y gwirfoddolwyr fydd rheoli eich clwb. Mae’r gwirfoddolwyr hyn yn ffurfio pwyllgor.        

Y swyddi pwysig mewn clwb newydd fydd:   

Cadeirydd:

Y Cadeirydd yw prif ffigwr y clwb.  Fe ellir penodi’r Cadeirydd yn Gadeirydd y clwb neu’n Gadeirydd y cyfarfod.  Ei swyddogaeth yw goruchwylio gwaith y cyfarfod a chadw trefn ymhlith yr aelodau.   Bydd yn rheoli’n gyffredinol, yn rhoi cyfarwyddiadau ac yn cadw ffocws a strwythur.  Ei gyfrifoldeb yn y pen draw fydd gwneud penderfyniadau ar ran y pwyllgor wedi ymgynghori gyda’r aelodau.                                    

Ysgrifennydd:

Yr Ysgrifennydd yw asgwrn cefn gweinyddol y clwb.  Yr Ysgrifennydd yw’r prif swyddog gweinyddol ac mae’n darparu cyswllt rhwng yr aelodau, y pwyllgorau a’r partneriaid eraill, e.e. clybiau eraill, cynghreiriau, y Corff Rheoli Cenedlaethol, Awdurdodau Lleol, y gymuned leol a’r cyfryngau.          

Fel rheol, yr Ysgrifennydd yw’r person cyntaf y byddai rhywun o’r tu allan yn cysylltu ag ef am fanylion am aelodaeth, hyfforddiant, cyfarfodydd a gweithgareddau.

Mae hon yn swydd bwysig ac yn hanfodol i drefniadaeth llwyddiannus unrhyw glwb.  Os na fydd y swydd hon yn cael ei gwneud yn dda, fe all y clwb ddod i ben.

Trysorydd:

Y Trysorydd yw’r prif berson sy’n gyfrifol am gyllid y clwb ac mae’n rhaid iddo weithio’n agos gydag aelodau eraill y pwyllgor.  Mae’r Trysorydd yn gyfrifol am gasglu ffïoedd aelodaeth, am dalu biliau ac am gadw cofnodion ariannol.  Bydd raid i’r person yma fod yn drefnus iawn ac yn gwbl onest.     

Swyddog Lles:

Mae’n syniad da i glybiau gael Swyddog Lles er mwyn sicrhau bod y clwb yn darparu amgylchedd diogel a chyfeillgar i bawb.  Y prif ddyletswyddau yw sicrhau bod pob aelod yn deall ac yn cadw at y polisi a’r gweithdrefnau lles – boed hen neu newydd.      

Ceir gwybodaeth bellach yn yr adran Lles o'r wefan.              

Holwch eich Corff Llywodraethu Cenedlaethol am wybodaeth bellach sy’n benodol berthnasol i’ch camp / gweithgaredd corfforol chi.

Cyngor chwaraeon cymru Cefnogwyd gan: Cynulliad Cenedlaethol Cymru Cefnogwyd gan: Y Loteri Genedlaethol Cefnogwyd gan: Her lechyd Cymru