Mwy o glybiau… gwell clybiau

Home » Sefydlu a Datblygu eich clwb » Rhaglen Chwarae

Paratoi ar gyfer Cystadlaethau

Athletics08Mae’n bwysig paratoi eich aelodau ar gyfer cystadlaethau yn erbyn clybiau eraill. Dyma rai awgrymiadau defnyddiol i chi eu hystyried cyn dechrau cystadlu:         

  • ystyried faint o hyfforddi/ymarfer sydd angen ar y chwaraewyr cyn iddynt fod yn barod i gystadlu.  Mewn rhai campau mae cynnig cystadlaethau yn gynnar yn haws, ac mae hyn yn aml yn dal diddordeb y chwaraewyr.  Mewn campau eraill, mwy cymhleth, mae cynnig cystadleuaeth yn rhy gynnar yn aml yn ormod i'r chwaraewyr; 
  • gwneud yn siwr bod eich aelodau wedi’u paratoi’n dda drwy osod nodau realistig;
  • hybu agweddau positif – mae cymryd rhan mewn cystadlaethau’n arf addysgol rhagorol ar gyfer datblygiad meddyliol yn ogystal â chorfforol;
  • ystyried darparu system fentora / cyfaill i helpu gyda chefnogi aelodau newydd / gwannach;
  • ceisio sicrhau bod y rhaglen hyfforddi’n cyd-fynd â’r rhaglen / calendr cystadlu fel bod yr aelodau ar eu gorau wrth gystadlu;                                    
  • dylid annog y cyfranogwyr i gyd i chwarae’n deg ym mhob cystadleuaeth – gweler y cod ymddygiad ar gyfer aelodau iau ar y dde am wybodaeth bellach (gellir addasu hwn yn rhwydd i fod yn addas i aelodau hŷn hefyd);
  • dylai’r agwedd tuag at gyd-gystadleuwyr fod yn gefnogol neu fe all cyfranogwyr deimlo llai o gymhelliant a bydd yr aelodaeth yn gostwng;
  • dylid annog rheini a chefnogwyr i fod yn gefnogol a doeth, gan gynnig adborth positif – gweler y cod ymddygiad ar gyfer rhieni am wybodaeth bellach;
  • yn fwy na dim, dylai’r cyfranogwyr fwynhau’r cystadlu.
Cyngor chwaraeon cymru Cefnogwyd gan: Cynulliad Cenedlaethol Cymru Cefnogwyd gan: Y Loteri Genedlaethol Cefnogwyd gan: Her lechyd Cymru