Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth. Dywedwch wrthym os na wnaethoch chi ddod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano
Bydd trefnu rhaglen briodol o hyfforddiant, cystadlaethau a gweithgareddau cymdeithasol yn eich clwb yn denu aelodau newydd ac yn cadw’r rhai sy’n aelodau eisoes.
Mae’r adran hon yn cynnig gwybodaeth ddefnyddiol am drefnu rhaglen eich clwb, sefydlu cyswllt clwb/ysgol ynghyd â manteision darparu cystadlaethau lleol ac awgrymiadau defnyddiol ynghylch sut orau i baratoi ar eu cyfer.
Mae pob aelod eisiau mwynhau’r gamp / gweithgaredd ar ei lefel ei hun – bydd rhai ddim ond eisiau dod i’r ymarfer yn rheolaidd a bydd eraill yn awyddus i wella eu sgiliau. Bydd aelodau eraill eisiau cymryd rhan mewn cystadlaethau. Bydd y rhan fwyaf o’r aelodau’n awyddus hefyd i fwynhau gweithgareddau cymdeithasol gyda’u ffrindiau yn y clwb.
Un maes pwysig sydd angen ei ystyried yn ofalus yw cymhareb y chwaraewyr:hyfforddwyr – y nifer o chwaraewyr y dylai hyfforddwr weithio â hwy. Mae hyn yn wahanol o gamp i gamp, o un grŵp oedran i’r llall ac o allu i allu. Mae’r un peth yn wir am nifer y sesiynau hyfforddi y dylech eu cynnig i’ch aelodau bob wythnos / mis / blwyddyn a strwythur y rhaglen a gynigir yn y sesiynau hyn.
Dylech holi eich Corff Rheoli Cenedlaethol - CRhC am fwy o wybodaeth am yr uchod. Gallant ddarparu canllawiau i chi ynghylch cymarebau chwaraewyr/ hyfforddwyr a gallant gynnig templadau hawdd i’w dilyn ynghylch sut i strwythuro eich rhaglen ymarfer. Hefyd, fe all Swyddog Datblygu Chwaraeon yr Awdurdod Lleol helpu i gynnig mwy o dempladau generig, cyngor a gwybodaeth.
Cydnabyddiaeth