Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth. Dywedwch wrthym os na wnaethoch chi ddod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano
Menter gan Gyngor Chwaraeon Cymru yw Campau’r Ddraig, yn cael ei chyllido gan y Loteri Genedlaethol. Ei diben yw cynnig cyfleoedd chwaraeon hwyliog a phleserus i blant 7-11 oed. Ceir cyswllt agos gyda chlybiau chwaraeon ysgol a chymunedol er mwyn annog plant i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon trefnus. Amcan y cynllun yw ehangu diddordebau chwaraeon y plant sydd eisoes yn cymryd rhan mewn chwaraeon a chynnwys y plant nad ydynt yn derbyn cyfleoedd o’r fath y tu allan i’w gwersi AG yn yr ysgol. Mae Campau’r Ddraig yn cyflwyno plant i hyfforddiant, datblygiad sgiliau a chystadlaethau priodol gan ddefnyddio fersiynau wedi’u haddasu o’r gêm i oedolion, i ddiwallu eu hanghenion a lefel eu sgil.
Defnyddir wyth camp wedi’i haddasu yn y cynllun – rygbi, athletau, criced, pêl droed, hoci, pêl rwyd, tenis a golff. Rhan hanfodol o waith Campau’r Ddraig yw canolbwyntio ar recriwtio rhieni a gwirfoddolwyr eraill fel cynorthwywyr, i gefnogi datblygiad clybiau chwaraeon ar ôl ysgol a chymunedol. Mae’r safle hwn yn cynnig nifer o dempladau defnyddiol iawn, a syniadau ynghylch sut i gael mwy o blant i fod yn egnïol, ffyrdd o recriwtio a chefnogi gwirfoddolwyr a’r strwythurau sydd eu hangen i alluogi i hyn ddigwydd.
Cydnabyddiaeth