Mwy o glybiau… gwell clybiau

Home » Sefydlu a Datblygu eich clwb » Rhaglen Chwarae

Rhaglen Cystadlu

bowlsEr mwyn cadw’r aelodau hyn a denu aelodau newydd, mae’n hanfodol bod cyfleoedd cystadlu priodol ar gael iddynt. Ystyr y gair ‘priodol’ yn y fan yma yw bod y gystadleuaeth yn addas i anghenion eich aelodau – bydd raid i chi ystyried eu hoedran a’u haeddfedrwydd, eu sgiliau datblygu, eu gallu, eu hagwedd a’u profiad o’r gamp / gweithgaredd.  Os yw’r cystadlaethau’n rhy anodd, maent yn debygol o golli eu hyder a gall hynny arwain at golli aelod o’r clwb ac o’r gamp / gweithgaredd am byth.  Os yw’r cystadlaethau’n rhy hawdd, yna mae ef / hi yn debygol o ddiflasu, heb gael digon o her, ac unwaith eto bydd y gamp / gweithgaredd yn eu colli neu byddant yn symud i glwb arall.                                

Beth sydd ei angen i gyflwyno rhaglen gystadlu effeithiol?

  • brwdfrydedd a chymhelliant;
  • sustem trefnus;
  • cystadlaethau priodol;  
  • cyfleusterau addas; 
  • hyfforddiant o safon uchel.

Dylai eich CRhC allu darparu cymorth pellach ynghylch yr amrywiaeth addas o gyfleoedd cystadlu ddylai fod ar gael i aelodau gan fod pob camp / gweithgaredd yn wahanol.  Cliciwch ar y cyswllt i’r Corff Rheoli Cenedlaethol (ar y dde) am wybodaeth fwy chwaraeon-benodol.    

Cyngor chwaraeon cymru Cefnogwyd gan: Cynulliad Cenedlaethol Cymru Cefnogwyd gan: Y Loteri Genedlaethol Cefnogwyd gan: Her lechyd Cymru