Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth. Dywedwch wrthym os na wnaethoch chi ddod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano
Yn syml iawn, ystyr y ‘cod ymddygiad’ y cyfeirir ato uchod yw cyfres o reolau sy’n rhoi cyngor i grŵp o bobl ynghylch lefel dderbyniol eu hymddygiad neu eu disgyblaeth. Gall hwn fod ar gyfer aelodau sy’n chwarae (boed iau neu hŷn), rhieni / gwarcheidwaid / gofalwyr, hyfforddwyr, gwirfoddolwyr, cefnogwyr a swyddogion.
Swyddogaeth y codau hyn yw gwarchod aelodau clybiau ac eraill a all gael eu heffeithio gan eu gweithredoedd, drwy gytuno i gyfres o weithdrefnau diogelwch. Hefyd, gall y codau ddarparu cyfarwyddyd ynghylch "chwarae teg" er mwyn cynnal naws chwaraeon priodol. Cewch ragor o wybodaeth yn yr adran Rheoli Eich Clwb o’r safle yma.
Cydnabyddiaeth