Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth. Dywedwch wrthym os na wnaethoch chi ddod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano
Mae mwy a mwy o sôn am y cyswllt hwn ac mae’n dod yn boblogaidd iawn. Y wir fantais yn y fan yma yw bod pob person ifanc yn cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn yr ysgol ond mae llawer llai yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ar ôl ysgol, mewn amgylchedd clwb. Mae’r cyswllt hwn yn bwysig i glybiau a byddai o gymorth i ddechrau rhoi sylw i’r gostyngiad hwn mewn cyfranogiad.
Drwy ddatblygu cyswllt ysgol clwb, mae’n rhoi cyfle i bobl ieuainc ddal ati i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol o’u cyfnod yn yr ysgol a bob cam drwodd i’w bywyd fel oedolyn.
Nid yw rhai cymunedau’n deall bod clybiau’n bodoli yn eu hardal, felly mae’n syniad da i ddefnyddio posteri i hybu a chynyddu’r ymwybyddiaeth y clwb ac o’u camp / gweithgaredd. Mae hefyd yn arf defnyddiol ar gyfer cyflwyno hyfforddwyr clwb i blant ysgol pan maent yn ieuainc, ac maent yn fwy tebygol o fynychu os ydynt wedi cael cyswllt blaenorol gyda hyfforddwyr / trefnyddion.
Mae’n fuddiol i ysgolion a chlybiau weithio gyda’i gilydd i rannu a gwneud y defnydd gorau o bobl (hyfforddwyr), cyfleusterau ac offer. Mae athrawon ysgol yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd chwaraeon a gweithgarwch corfforol i blant, ond drwy ddod â champ / gweithgaredd corfforol i’r ysgol i gyflwyno sesiwn ar ôl ysgol, gellir rhoi blas go iawn i’r disgyblion ar amrywiaeth eang o chwaraeon / gweithgareddau. Byddai’r ysgolion yn gweithredu wedyn i hybu’r clybiau hyn ac i annog plant i fod yn aelodau o glybiau, er mwyn cael mwy o gyfleoedd rheolaidd i gymryd rhan.
Cydnabyddiaeth