Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth. Dywedwch wrthym os na wnaethoch chi ddod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano
Unwaith rydych wedi sefydlu, bydd llif cyson o aelodau newydd o gymorth i gadw eich clwb yn ffyniannus a blaengar. Yn ogystal â chynyddu’r niferoedd i chwarae a chreu mwy o dimau, bydd recriwtio aelodau newydd ac iau yn sicrhau eich bod yn creu sylfaen gymryd rhan gref ar gyfer y genhedlaeth nesaf o chwaraewyr.
Mae bob amser yn ddefnyddiol darganfod sut fu i’ch aelodau presennol ganfod gwybodaeth am y clwb, fel eich bod yn gwybod sut i ddenu mwy o aelodau yn y dyfodol, naill ai am fod y llwybr hwnnw’n gweithio’n dda neu am eich bod wedi cael hyd i fwlch yn eich cyhoeddusrwydd.
Mae llawer o glybiau chwaraeon lleol yn gweld bod cyfran helaeth o’u haelodau newydd yn cael eu recriwtio gan aelodau presennol. Efallai eich bod am gynnal ymgyrch "Dod â Ffrind", a threfnu "Noson Agored" i greu diddordeb yn lleol.
Yn y panel ar y dde, fe welwch dempladau ar gyfer ffurflen aelodaeth syml i glwb, ffurflen aelodaeth iau a ffurflen caniatâd rhieni.
Cydnabyddiaeth