Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth. Dywedwch wrthym os na wnaethoch chi ddod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano
Aelodau yw’r allwedd i unrhyw glwb. Mae gan glybiau llwyddiannus, sy’n ffynnu, aelodau ymroddedig a chyfranogol.Mae’r adran hon yn ymwneud â darparu gwybodaeth, cyngor ac awgrymiadau ynghylch sut i ddenu aelodau newydd a dal gafael ar aelodau presennol.
Mae’n bwysig bod clybiau’n cynnig cyfleoedd i bobl ifanc yn ogystal ag oedolion oherwydd mae’r aelodau ieuainc hyn yn chwarae rhan allweddol mewn sicrhau llwyddiant a datblygiad hirdymor clybiau. Gyda sylfaen gref o aelodau iau, rydych yn creu dyfodol cryf i’r clwb.
Mae’n bwysig hefyd bod pobl ifanc yn gallu symud oddi wrth gymryd rhan mewn chwaraeon yn yr ysgol i amgylchedd gyda mwy o oedolion, sy'n cynnig cyfleoedd hyfforddi a chwarae o safon uchel sy’n eu helpu i ddatblygu yn y gamp o’u dewis hwy. Ceir gwybodaeth bellach yn yr adran 'Rhaglen Chwarae' yn y safle yma ynghylch sut gall clwb wneud y cyswllt hwn gydag ysgolion.
Mae pob clwb yn unigryw ac ni fydd pob clwb yn teimlo bod adran iau yn briodol iddo ef. Dylai aelodau’r clwb drafod hyn gyda phwyllgor y clwb cyn gweithredu ymhellach. Ceir nifer o bethau i’w hystyried a dylech fod yn gyfforddus bod eich clwb yn cydnabod ac yn derbyn y cyfrifoldeb o ddarparu a gofalu am aelodau ieuainc cyn sefydlu adran iau.
Cydnabyddiaeth