Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth. Dywedwch wrthym os na wnaethoch chi ddod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano
Mae’r adran hon yn edrych ar y dyletswyddau gweinyddol cysylltiedig â rheoli eich clwb yn effeithiol. Mae eich clwb wedi cael ei sefydlu i gyflwyno rhaglen chwaraeon / gweithgarwch corfforol, a fawr ddim sydd eisiau treulio eu hamser yn llunio a gweithio drwy ddogfennau polisi a gweithdrefnau’r clwb. Ond, o dreulio ychydig o amser ar y dechrau fel hyn, bydd modd gwneud yn siwr bod popeth yn ei le, ac ni fydd angen cymaint o ymdrech ac amser ar gyfer hyn yn y dyfodol.
Aelodaeth o Gyrff Rheoli Cenedlaethol:
Cyrff Rheoli Cenedlaethol (CRhC) yw’r cyrff chwaraeon sy’n gyfrifol am reoli a datblygu eu camp yn y wlad maent yn gofalu amdani. Hefyd, maent yn gyfrifol am drefnu cystadlaethau cenedlaethol, dewis timau, adnabod talent a chyflwyno addysg i hyfforddwyr, ymhlith llu o ddyletswyddau eraill. Fe’u gwneir yn gyfrifol hefyd am ddarparu cefnogaeth leol i glybiau mewn meysydd fel yswiriant ac iechyd a diogelwch.
Bydd ymaelodi â’ch CRhC (mae’r gost yn amrywio o un CRhC i’r llall) yn eich galluogi i gymryd rhan mewn cystadlaethau, i gymhwyso hyfforddwyr eich clwb, i fod yn gymwys am wneud cais am gyllid a nifer o fanteision eraill a fydd o gymorth i chi ac yn eich cefnogi wrth i chi ddatblygu eich clwb.
Am fanteision unigol, cysylltwch â’ch CRhC.
Cydnabyddiaeth