Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth. Dywedwch wrthym os na wnaethoch chi ddod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano
Mae iechyd a diogelwch yn bwysig i bob clwb a sefydliad. Mae gan glybiau ddyletswydd cyfreithiol mewn perthynas ag iechyd a diogelwch gwirfoddolwyr – mae dyletswydd o ofal yn ddyletswydd cyfreithiol y mae’n rhaid i bob unigolyn, clwb chwaraeon a CRhC gadw ato er mwyn osgoi achosi anaf diofal i bobl. Fel man cychwyn, mae’n rhaid i’r clwb ddangos ei fod yn ymroddedig i warchod ei aelodau a’i wirfoddolwyr rhag risg o niwed neu anaf drwy ddangos Polisi Iechyd a Diogelwch.
Bydd polisi pob clwb yn wahanol, gan ddibynnu ar y gamp / gweithgaredd, y math o eiddo sydd gan y clwb, a yw’r clwb yn berchen ar neu’n llogi ei gyfleusterau, a oes ganddo weithwyr cyflogedig, aelodau iau neu gyfranogwyr gydag anghenion arbennig etc.
Mae’n bwysig ysgrifennu’r polisi wedi ei drafod gyda phwyllgor y clwb ac aelodau’r clwb fel bod cymaint o bobl ag y bo modd yn deall y polisi. Trwy hynny, maent yn fwy tebygol o’i weithredu a chadw at y rheoliadau.
Er mwyn gwarchod y clwb a gwneud yn siwr eich bod yn monitro ac yn dysgu oddi wrth ddamweiniau ac anafiadau, dylech lunio Adroddiad am Ddigwyddiad / Damwain i gofnodi unrhyw ddamweiniau, anafiadau a digwyddiadau sydd wedi effeithio ar aelodau / ymwelwyr y clwb, boed yn yr eiddo neu mewn lleoliad arall. Ceir hefyd restr gyflym a chyfleus o ganllawiau ar gyfer delio gyda digwyddiad / damwain ar y dde, i chi allu edrych arni.
Mae’n syniad da sicrhau bod o leiaf 1 swyddog cymorth cyntaf cymwys ar gael ym mhob un o sesiynau hyfforddi a digwyddiadau’r clwb. Dylai’r clybiau annog aelodau, hyfforddwyr a / neu wirfoddolwyr i fynychu cwrs hyfforddiant cymorth cyntaf fel eu bod yn gallu ymateb i sefyllfaoedd cymorth cyntaf sylfaenol yn hyderus.
Mae nifer o gyrsiau hyfforddi ar gael (yn costio rhyw £30) – mae’n werth siarad gyda’ch Corff Rheoli Cenedlaethol i ddechrau, neu ddarparwyr hyfforddiant eraill, yn cynnwys Y Groes Goch Brydeinig ac Ambiwlans Sant Ioan.
Cydnabyddiaeth