Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth. Dywedwch wrthym os na wnaethoch chi ddod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano
Mae dyletswydd o ofal yn ddyletswydd gyfreithiol gyffredinol i unigolion, clybiau chwaraeon / gweithgarwch corfforol a Chyrff Rheoli Cenedlaethol er mwyn osgoi achosi niwed neu anaf yn ddiofal i bobl. Mae’r system wedi’i datblygu dros nifer o flynyddoedd ac mae’n berthnasol i bawb, waeth beth yw maint eich sefydliad, lefel eich incwm a pha un ai oes gennych staff cyflogedig ai peidio.
Gall dyletswydd o ofal ddigwydd mewn sawl ffordd, fel:
Fel rheol, nid yw clybiau gyda gwirfoddolwyr yn gorfod cofrestru eu gweithgareddau gyda’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch (GID) oni bai eu bod yn cael eu hystyried fel ‘gweithgareddau peryglus’. Yn aml iawn, mae’r GID yn gweithio gyda Chyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol er mwyn datblygu cyfarwyddyd ynghylch sut i ddelio gyda risg, ond mae hunanreolaeth yn chwarae rhan bwysig yn y mwyafrif o chwaraeon hefyd.
Mae clybiau sy’n berchen ar neu’n gyfrifol am eiddo neu adeiladau’n gorfod cofrestru gyda’r Awdurdod Tân lleol. Mae’n rhaid i glybiau sy’n paratoi, yn storio, yn cyflenwi ac yn gwerthu bwyd ar fwy na phum niwrnod mewn unrhyw gyfnod o bump wythnos gofrestru gydag Adran Iechyd yr Amgylchedd.
Os ydych yn ansicr ynghylch unrhyw beth yn y fan yma, mae’n werth cysylltu gyda’ch Corff Rheoli Cenedlaethol am wybodaeth bellach.
Cydnabyddiaeth