Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth. Dywedwch wrthym os na wnaethoch chi ddod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano
Er mwyn gwneud profiad pawb mewn clwb yn fwy pleserus, mae’n bwysig gwybod beth yw’r ffiniau o safbwynt ymddygiad derbyniol i hyfforddwyr, swyddogion, gwirfoddolwyr, aelodau, cefnogwyr a rhieni / gwarcheidwaid / gofalwyr. Ar y dde, fe welwch dempladau ar gyfer cod ymddygiad ar gyfer aelodau a chod ymddygiad ar gyfer rhieni / gwarcheidwaid / gofalwyr. Gwelir templadau’r codau ymddygiad eraill yn y tudalennau Hyfforddi a Gwirfoddolwyr.
Gan fod chwaraeon / gweithgareddau corfforol yn wynebu gwahanol faterion diogelwch a chan fod pob un yn delio’n wahanol gyda diogelwch, mae’n bwysicach fyth bod gan bob clwb ei gyfres benodol ei hun o ganllawiau a gweithdrefnau. Dylai’r gweithdrefnau penodol hyn gael eu defnyddio ochr yn ochr â rheolau’r Corff Rheoli Cenedlaethol ar gyfer y gamp / gweithgaredd penodol.
O gadw at y codau hyn, ac wrth i’r clwb ddangos eu bod yn bwysig, dylent arwain at lai o risg o anaf i aelodau’r clwb ac i’r gymuned yn gyffredinol.
Cydnabyddiaeth