Mwy o glybiau… gwell clybiau

Home » Sefydlu a Datblygu eich clwb

Sefydlu a datblygu eich clwb

A oes angen i mi sefydlu clwb newydd? Sut 'ydych chi’n gwybod ei bod yn amser i chi sefydlu clwb newydd? Y cwestiynnau cyntaf y bydd raid i chi eu holi ydy:
  • a ydych angen sefydlu clwb newydd sbon?
  • a oes clwb yn cyfarfod eisoes sy’n cwrdd anghenion y gamp / cynnig gweithgaredd yn eich ardal chi?
  • ai dim ond adran newydd mewn clwb 'ydych ei hangen, yn hytrach na chlwb newydd?  

Cliciwch yma am wybodaeth bellach am yr hyn y mae’n rhaid i chi ei ystyried cyn cymryd camau pellach. 

Sefydlu a Datblygu eich Clwb  

leftPic10Clybiau yw asgwrn cefn chwaraeon / gweithgarwch corfforol Cymru ac mae ganddynt ran allweddol i’w chwarae mewn darparu cyfleoedd i bob oedran a gallu.  Er mwyn bod yn glwb effeithiol a llwyddiannus, bydd raid i chi ystyried sut mae eich clwb yn cael ei drefnu a’i redeg.  
Felly, gadewch i ni eich helpu i sefydlu eich clwb a gosod y sylfeini yn eu lle.

Dyma beth y cewch hyd iddo yn yr adran hon yn fras:

AELODAU: Mae’r adran hon yn ymwneud â denu a dal gafael ar eich aelodau.  

HYFFORDDIANT: Bydd yr adran hon yn darparu gwybodaeth am rôl benodol hyfforddwyr.

GWIRFODDOLWYR: Mae’r adran hon yn edrych ar recriwtio a chefnogi eich gwirfoddolwyr.

Y RHAGLEN CHWARAE: Bydd yr adran hon yn rhoi syniadau i chi ynghylch sut i drefnu rhaglen eich clwb, gan sefydlu cysylltiadau Ysgol – Clwb a chynnig awgrymiadau ynghylch manteision cystadlaethau lleol a sut orau i baratoi ar eu cyfer.

CYFLEUSTERAU & CHYLLID: Mae’r adran hon yn darparu cysylltiadau â chyfleusterau yn eich ardal i’ch clwb.

RHEOLI EICH CLWB: Mae’r adran hon yn edrych ar y dyletswyddau gweinyddol sy’n rhan o’r gwaith o reoli eich clwb.

LLES: Gellir defnyddio’r adran hon i helpu eich clwb i fod yn fwy ymwybodol o faterion lles ac i fabwysiadu’r polisïau a’r dulliau gweithredu priodol.

TEGWCH I BAWB: Mae’n bwysig ym myd chwaraeon, fel ym mhob maes arall, bod pawb yn cael yr un statws a’r un cyfleoedd.
Cyngor chwaraeon cymru Cefnogwyd gan: Cynulliad Cenedlaethol Cymru Cefnogwyd gan: Y Loteri Genedlaethol Cefnogwyd gan: Her lechyd Cymru