Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth. Dywedwch wrthym os na wnaethoch chi ddod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano
Mae’n bwysig ym myd chwaraeon, fel ym mhob maes arall, bod pawb yn cael yr un statws a’r un cyfleoedd. Mae tegwch mewn chwaraeon yn golygu sicrhau eu bod ar gael i bob aelod o’r gymuned.
Argymhellir bod pob clwb yn llunio polisi cyfleoedd cyfartal ac, yn bwysicach na dim, bod y polisi’n cael ei ddeall ac yn cael ei roi ar waith.
Mae’n bwysig bod eich clwb yn hybu’r ethos yma – mae llunio datganiad tegwch yn ffordd dda o wneud hyn. Mae’n dangos ymrwymiad eich clwb i gyfle cyfartal a dylid ei gynnwys yng nghyfansoddiad eich clwb, fel rhywbeth defnyddiol i atgoffa pawb.
Mae Tegwch mewn Chwaraeon yn golygu defnydd cyfartal, cydnabod anghydraddoldeb a chymryd camau i roi sylw iddo. Mae’n golygu newid diwylliant a strwythur chwaraeon a gweithgareddau corfforol er mwyn sicrhau eu bod ar gael mewn ffordd gydradd i bawb yn y gymdeithas.
Fel rheol, ystyrir y Polisi Cyfle Cyfartal fel dogfen fwy ffurfiol, yn datgan yn fwy ymarferol y camau yr ydych yn bwriadu eu cymryd er mwyn sicrhau bod y datganiad cydraddoldeb yn cael ei weithredu ac i ddangos pwy sy’n gyfrifol am y gweithredoedd amrywiol. Mae polisi templad ar gael ar y dde.
Cydnabyddiaeth